2010 Rhif 2237 (Cy.196) (C.111)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Diwygio) 2010

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 50(2)(c) a 51(4) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 20091, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Diwygio) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Orchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 20092

1

Diwygir Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 20092 fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (3)(a) o erthygl 3 o flaen “10A” mewnosoder “6, 7, 9,”.

3

Yn lle paragraff (4) o erthygl 3 rhodder—

4

Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw bod awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru yn paratoi cynlluniau perfformio gwerth gorau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009-2010 a bod Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnal arolygiadau ar y cynlluniau hynny, ac arolygiadau eraill, er mwyn penderfynu a yw awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru wedi cydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 i'r graddau y mae'r gofynion hynny'n ymwneud â'r flwyddyn ariannol 2009-2010.

Carl SargeantY Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (“y Mesur”) yn diwygio sail statudol gwella gwasanaeth a chynllunio strategol gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cafodd darpariaethau penodol yn y Mesur eu dwyn i rym gan Orchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2009 (O.S. 2009/1796 (Cy.163) (C.88)) a Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009 (O.S. 2009/3272 (Cy.288) (C.145)) (“ Gorchymyn Rhif 2”).

Mae Gorchymyn Rhif 2 yn cynnwys darpariaethau arbed sy'n arbed darpariaethau penodol o Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (“Deddf 1999”) er mwyn galluogi awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru i baratoi cynlluniau perfformiad gwerth gorau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009-2010 a galluogi Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal arolygiadau bod yr awdurdodau hynny yn cydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Ddeddf 1999 yn y flwyddyn ariannol 2009-2010.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud y darpariaethau arbed a geir yn erthygl 3(3)(a) a (4) yng Ngorchymyn Rhif 2 yn fwy eglur, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth.