Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yn achos ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, yw'r awdurdod lleol hwnnw, ac ym mhob achos arall, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi;
mae i “cwricwlwm lleol”, mewn perthynas â disgyblion yn y pedwerydd cyfnod allweddol, yr ystyr a roddir i “local curriculum” gan adran 97 o Ddeddf Addysg 2002 ac, mewn perthynas â disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg oed, yr ystyr a roddir i “local curriculum” gan adran 33N o Ddeddf Addysg a Medrau 2000(1); ac
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”)—
(a)mewn perthynas â disgybl sydd o dan 18 mlwydd oed, yw rhiant y disgybl;
(b)mewn perthynas â disgybl a gyrhaeddodd yr oedran hwnnw, yw'r disgybl.
Mewnosodwyd adran 33N gan adran 35 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, ond nid yw mewn grym adeg gwneud y Rheoliadau hyn. Rhaid i'r cwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed gael eu llunio'n unol ag adran 33A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Mewnosodwyd adran 33A gan adran 22 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.