Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yn achos ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, yw'r awdurdod lleol hwnnw, ac ym mhob achos arall, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi;
mae i “cwricwlwm lleol”, mewn perthynas â disgyblion yn y pedwerydd cyfnod allweddol, yr ystyr a roddir i “local curriculum” gan adran 97 o Ddeddf Addysg 2002 ac, mewn perthynas â disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg oed, yr ystyr a roddir i “local curriculum” gan adran 33N o Ddeddf Addysg a Medrau 20002; ac
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”)—
- a
mewn perthynas â disgybl sydd o dan 18 mlwydd oed, yw rhiant y disgybl;
- b
mewn perthynas â disgybl a gyrhaeddodd yr oedran hwnnw, yw'r disgybl.
- a