2010 Rhif 1622 (Cy.152)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Dirymu) 2010
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721.
Cafodd Gweinidogion Cymru eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol ar fwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu y porthir anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd ag ef2.