Esemptiadau6

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i seilo, system storio slyri na thanc storio tanwydd—

a

a ddefnyddid, cyn 1 Mawrth 1991, at y diben o wneud silwair, storio slyri neu storio olew tanwydd, yn ôl y digwydd;

b

onis defnyddid cyn 1 Mawrth 1991 at y diben hwnnw, a adeiladwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer y defnydd hwnnw; neu

c

mewn perthynas â pha un—

i

y gwnaed contract cyn 1 Mawrth 1991 i'w adeiladu, ei ehangu'n sylweddol neu ei ailadeiladu'n sylweddol, neu

ii

y cychwynnwyd ar waith o'r fath cyn y dyddiad hwnnw, ac

yn y naill achos a'r llall fod y gwaith wedi'i gwblhau cyn 1 Medi 1991.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i seilo, system storio slyri neu danc storio tanwydd sy'n bodloni gofynion paragraff (1) os na chydymffurfir ag unrhyw ofyniad mewn hysbysiad o dan reoliad 7 o fewn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad.

3

Mae unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (2) at y cyfnod a nodir mewn hysbysiad yn gyfeiriad at y cyfnod hwnnw fel y'i hestynnwyd os cafodd ei estyn o dan reoliad 7(6)(b) neu yn rhinwedd rheoliad 8(6) ac mae unrhyw gyfeiriad yn y paragraffau hynny at ofyniad mewn hysbysiad yn gyfeiriad at y gofyniad hwnnw fel y'i haddaswyd os cafodd ei addasu o dan reoliad 7(6).