xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Gwneud neu storio silwair

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sydd â silwair sy'n cael ei wneud neu ei storio dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau—

(a)bod y silwair yn cael ei gadw mewn seilo sy'n bodloni gofynion Atodlen 1; neu

(b)fod y silwair yn cael ei gywasgu i fyrnau—

(i)sydd wedi'u lapio a'u selio mewn pilennau anhydraidd, neu wedi'u cau mewn bagiau anhydraidd; a

(ii)sydd wedi'u storio o leiaf 10 o fetrau oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant sy'n dianc o'r byrnau fynd i mewn iddynt; neu

(c)os mai cnwd yw'r silwair sy'n cael ei wneud yn silwair maes (hynny yw, silwair sy'n cael ei wneud ar dir agored drwy ddull gwahanol i'r dull byrnau y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)), neu os mai silwair sy'n cael ei storio ar dir agored ydyw—

(i)bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael ei hysbysu o'r man lle bydd y silwair yn cael ei wneud neu ei storio o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn defnyddio'r fan honno at y pwrpas hwnnw am y tro cyntaf; a

(ii)bod y fan honno o leiaf 10 o fetrau oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol, ac o leiaf 50 o fetrau oddi wrth y lle agosaf y tynnir dŵr perthnasol o unrhyw ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt petai'n dianc.

(2At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), mae ffynhonnell cyflenwi dŵr yn ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig—

(a)os oes unrhyw dynnu dŵr perthnasol o'r ffynhonnell wedi'i drwyddedu o dan Ran II o'r Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991; neu

(b)os yw'r person sy'n gwneud neu'n storio'r silwair yn ymwybodol o leoliad y ffynhonnell—

(i)cyn dechrau ar wneud y silwair; neu

(ii)os gwnaed y silwair mewn man arall, cyn ei storio ar y tir dan sylw.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i silwair tra'i fod yn cael ei storio dros dro mewn cynhwysydd, ôl-gerbyd neu gerbyd mewn cysylltiad â'i gludo o gwmpas y fferm neu fan arall.

(4Rhaid i berson sydd â bwrn silwair dan ei ofal neu ei reolaeth beidio ag agor na symud ymaith yr hyn sy'n lapio'r bwrn o fewn 10 o fedrau i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair, o ganlyniad, fynd i mewn iddynt.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “tynnu dŵr perthnasol” yw tynnu dŵr ar gyfer ei ddefnyddio—

(i)i'w yfed gan bobl; neu

(ii)at ddibenion domestig (o fewn yr ystyr a roddir i “domestic purposes” gan adran 218 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(1)) heblaw at ei yfed gan bobl; neu

(iii)i weithgynhyrchu bwyd neu ddiod i'w fwyta neu i'w yfed gan bobl; a

(b)ystyr “ffynhonnell cyflenwi dŵr” yw dyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd daear y tynnir dŵr perthnasol ohono neu y trwyddedir tynnu dŵr perthnasol ohono.