(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991, O.S. 1991/324 (fel y'i diwygiwyd) i'r graddau y mae O.S. 1991/324 (fel y'i diwygiwyd) yn ymwneud â Chymru.
Rhoddwyd gwybod i'r Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau hyn yn unol â Chyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/34/EC sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 204, 21.7.98, t.37), fel y'i diwygiwyd.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â silwair sy'n cael ei wneud neu ei storio dan ei ofal neu ei reolaeth i gadw'r cyfryw silwair mewn seilos sy'n bodloni gofynion Atodlen 1 ac i gymryd rhagofalon a chamau eraill ar gyfer atal llygru dyfroedd.
Mae rheoliadau 4 a 5 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â slyri neu olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth i storio'r cyfryw silwair neu olew tanwydd mewn system storio slyri neu mewn tanc storio tanwydd sy'n bodloni gofynion Atodlenni 2 neu 3.
Mae rheoliad 6 yn darparu eithriadau rhag gofynion y Rheoliadau ar gyfer seilos, systemau storio slyri a thanciau storio tanwydd.
Mae rheoliadau 7 ac 8 yn caniatáu i Asiantaeth yr Amgylchedd gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i waith gael ei gwneud neu i ragofalon gael eu cymryd ar gyfer cwtogi'r risg o lygredd i ddyfroedd dan reolaeth a hefyd i ddarparu gweithdrefn i apelio yn erbyn hysbysiadau o'r fath.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i Asiantaeth yr Amgylchedd gael ei hysbysu o weithiau penodol i seilo, system storio slyri neu fan storio tanwydd.
Mae rheoliad 10 yn darparu bod mynd yn groes i reoliadau penodol yn dramgwydd troseddol.
Mae'r Rheoliadau yn diweddaru'r safonau sy'n gymwys i ddyluniad ac adeiladwaith seilos a systemau storio slyri.
Mae copïau o'r dogfennau a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau i'w cael o unrhyw fannau gwerthiant sydd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, drwy'r post oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig, Gwasanaethau Cwsmeriaid, 389 Chiswick High Road, Llundain, W4 4AL, drwy ffonio 020 8996 9001, neu drwy anfon e-bost at orders@bsi-global.com.
Ni chafodd Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.