Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith y Cyfarwyddebau canlynol—
(i)Cyfarwyddeb 2008/50/EC ar ansawdd aer amgylchynol ac aer glanach ar gyfer Ewrop. (Mae'r Gyfarwyddeb hon yn disodli Cyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol, Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/30/EC sy'n ymwneud â gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, a mater gronynnol a phlwm mewn aer amgylchynol, Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/69/EC sy'n ymwneud â gwerthoedd terfyn ar gyfer bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol, a Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/3/EC sy'n ymwneud ag osôn mewn aer amgylchynol); a
(ii)Cyfarwyddeb 2004/107/EC sy'n ymwneud ag arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel a hydrocarbonau aromatig polysyclig mewn aer amgylchynol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2007 (O.S. 2007/717 (Cy.63)) a ddirymir gan y Rheoliadau hyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau'n ymdrin â diffiniadau ac yn dynodi Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Cyfarwyddeb 2008/50/EC (ac eithrio at ddiben cydweithredu ag Aelod-wladwriaethau eraill a'r Comisiwn Ewropeaidd) ac at ddibenion Cyfarwyddeb 2004/107/EC. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru rannu Cymru'n barthau a chrynoadau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau'n ymdrin ag asesu aer amgylchynol. Mae Pennod 1 yn ymwneud ag asesu sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol, plwm, bensen a charbon monocsid, mae Pennod 2 yn ymwneud ag asesu osôn, ac mae Pennod 3 yn ymwneud ag asesu arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill.
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau'n gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, amcanion hirdymor, trothwyon gwybodaeth a rhybuddio a lefelau critigol ar gyfer y llygryddion uchod a osodir yn Atodlenni 1 i 5.
Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau'n gosod dyletswyddau ychwanegol ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r math ar fater gronynnol a elwir PM2·5. Mae'r dyletswyddau hyn yn ymwneud â chyrraedd y targed cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer PM2·5 o ran lleihau cysylltiad ag ef ac â chydymffurfio â'r terfyn ar y dangosydd cysylltiad cyfartaleddog ar gyfer 2015.
Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau'n rhoi gofynion penodol ar Weinidogion Cymru i lunio cynlluniau ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd terfyn a gwerthoedd targed, a chynlluniau gweithredu cyfnod byr mewn perthynas â throthwyon rhybuddio. Caniateir llunio hefyd gynlluniau gweithredu cyfnod byr mewn perthynas â gwerthoedd terfyn a gwerthoedd targed mewn amgylchiadau penodol.
Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau'n ymwneud â gwybodaeth gyhoeddus.
Mae Atodlenni 1 i 5 yn gosod gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, amcanion hirdymor, trothwyon gwybodaeth a rhybuddio a lefelau critigol ar gyfer y llygryddion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.
Mae Atodlen 6 yn pennu pa wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynlluniau ansawdd aer.
Mae Atodlen 7 yn pennu pa wybodaeth gyhoeddus sydd i'w darparu pan fydd trothwyon gwybodaeth yn cael eu croesi neu pan ragfynegir y byddant yn cael eu croesi.
Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Atodiadau I i VI ac VIII i X ac at Adran B o Atodiad XV i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ac at Adran II o Atodiad II ac Atodiadau III i V i Gyfarwyddeb 2004/107/EC i'w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at yr Atodiadau hynny a'r Adrannau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Mae asesiad effaith llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn ac offerynnau cyfatebol mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ei chael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan: Rhaglen yr Atmosffer a'r Amgylchedd Lleol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Ergon House, Horseferry Road, Llundain, SW1P 3JR.