2010 Rhif 1410 (Cy.125)
Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2010
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 188(1) a (2)(d) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 20091.
Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 316(6) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2010.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Mai 2010.
Diwygio Deddf Pysgodfeydd 1981 (p.29)2
Yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Pysgodfeydd 19812, ar ôl paragraff 17B mewnosoder—
17C
Any offence under section 190 of the Marine and Coastal Access Act 2009 (contravention of an order made by the Welsh Ministers in relation to fisheries in Wales).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)