Dosbarthu pecynnau i sefydliadau cymunedol â llaw9

1

Rhaid i'r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—

a

unrhyw becynnau sefydliad cymunedol, pecynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad;

b

rhestr sy'n cynnwys cyfeiriadau pob sefydliad cymunedol sydd wedi'i leoli yn ardal y cydgysylltydd hwnnw y mae'n rhaid dosbarthu pecynnau iddynt o dan y rheoliad hwn;

c

llyfr cofnodion cyfrifo arbennig i bob dosbarth cyfrifo yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; ac

ch

unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.

2

Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad ddynodi swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau sefydliad cymunedol, pecynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob dosbarth cyfrifo.

3

Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad roi i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2) gopi o'r llyfr cofnodion cyfrifo arbennig i'w ddosbarth cyfrifo a chyfarwyddo'r swyddog cyfrifiad i ddosbarthu—

a

pecyn sefydliad cymunedol i bob sefydliad cymunedol a grybwyllir yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig;

b

nifer digonol o becynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob un o'r sefydliadau hynny at ddibenion y cyfrifiad; ac

c

pecynnau sefydliad cymunedol, pecynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i unrhyw sefydliadau cymunedol eraill yn eu dosbarth cyfrifo y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt.

4

Bydd dyletswydd y swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau wedi'i chyflawni mewn perthynas â phob sefydliad cymunedol os caiff y pecynnau eu dosbarthu i'r person sydd am y tro â gofal y sefydliad cymunedol neu, os nad oes person o'r fath ar gael, os bydd y swyddog—

a

yn eu gadael gyda pherson cyfrifol sy'n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw; neu

b

os nad oes person cyfrifol ar gael, yn eu gadael yn y cyfeiriad sydd wedi'i nodi yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig.

5

Rhaid i'r person y dosbarthir pecynnau iddo o dan baragraff (3) drosglwyddo pecyn unigol rheolaidd neu becyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw i'r canlynol—

a

pob person sydd fel arfer yn preswylio yn y fangre neu'r llong y mae'n ymddangos iddo eu bod yn gallu llenwi holiadur; neu

b

i berthynas neu berson arall a fydd yn llenwi'r holiadur ar ran person sy'n dod o dan is-baragraff (a) ond nad yw'n gallu llenwi'r holiadur yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad.

6

Mewn perthynas â phob pecyn sefydliad cymunedol a phob pecyn unigol rheolaidd neu bob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw a ddosbarthir yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig.

7

Rhaid i bob swyddog cyfrifiad roi'r cofnodion yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i ddangos bod pecyn wedi'i ddosbarthu i bob cyfeiriad.

8

Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddosbarthu i fwy nag un dosbarth cyfrifo.

9

Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 11, ystyr “llyfr cofnodion cyfrifo arbennig” (“special enumeration record book”) yw llyfr sydd wedi'i argraffu gan yr Awdurdod ac sy'n cynnwys—

a

cyfeiriad pob sefydliad cymunedol mewn dosbarth cyfrifo y mae'n rhaid i swyddog cyfrifiad ddosbarthu pecynnau sefydliad cymunedol a phecynnau unigol rheolaidd neu becynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw iddynt â llaw;

b

y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur CE1 sydd i'w ddosbarthu mewn dosbarth cyfrifo;

c

y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur I2 sydd i'w ddosbarthu i sefydliad cymunedol penodol mewn dosbarth cyfrifo; ac

ch

lle i swyddog cyfrifiad gofnodi gwybodaeth am y canlynol—

i

unrhyw sefydliadau cymunedol ychwanegol y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt;

ii

dosbarthu pob pecyn sefydliad cymunedol, pob pecyn unigol rheolaidd a phob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw; a

iii

casglu holiaduron.