- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Rhaid i'r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—
(a)unrhyw becynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad;
(b)rhestr sy'n cynnwys cyfeiriadau pob aelwyd yn y gofrestr cyfeiriadau sydd wedi'i lleoli yn ardal y cydgysylltydd hwnnw y mae'n rhaid dosbarthu pecyn aelwyd iddynt o dan y rheoliad hwn;
(c)llyfr cofnodion cyfrifo i bob dosbarth cyfrifo yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; ac
(ch)unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.
(2) Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad ddynodi swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob dosbarth cyfrifo.
(3) Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad roi i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2) gopi o'r llyfr cofnodion cyfrifo i'w ddosbarth cyfrifo ac wedyn rhaid i'r swyddog cyfrifiad ddosbarthu—
(a)pecyn aelwyd i bob aelwyd sy'n meddiannu annedd, neu ran o annedd, a grybwyllir yn y llyfr cofnodion cyfrifo;
(b)pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw i bob aelwyd sy'n cynnwys etholwr yn nosbarth cyfrifo'r swyddog cyfrifiad nad yw eisoes wedi cael pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw ac y mae'r cydgysylltydd cyfrifiad wedi rhoi gwybod amdano i'r swyddog; ac
(c)pecynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw (fel y bo'n briodol) i unrhyw aelwydydd neu etholwyr eraill y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt yn ei ddosbarth cyfrifo.
(4) Bydd dyletswydd y swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecyn o dan baragraff (3) wedi'i chyflawni mewn perthynas â phob aelwyd ac etholwr os bydd y swyddog yn trosglwyddo'r pecyn i'r deiliad aelwyd, y cyd-ddeiliad aelwyd neu, os nad oes person o'r fath ar gael, os bydd y swyddog—
(a)yn gadael pecyn gyda pherson cyfrifol sy'n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw; neu
(b)os nad oes person cyfrifol ar gael, yn gadael y pecyn neu'n ei anfon drwy'r post i'r cyfeiriad yn y llyfr cofnodion cyfrifo neu'r cyfeiriad y rhoddodd y cydgysylltydd cyfrifiad wybod amdano i'r swyddog.
(5) Mewn perthynas â phob pecyn aelwyd neu bob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw a ddosberthir yn unol â'r rheoliad hwn rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo.
(6) Rhaid i bob swyddog cyfrifiad roi'r cofnodion yn y llyfr cofnodion cyfrifo i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i ddangos bod pecyn wedi'i ddosbarthu i bob cyfeiriad.
(7) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddosbarthu i fwy nag un dosbarth cyfrifo.
(8) Yn y rheoliad hwn ystyr “llyfr cofnodion cyfrifo” (“enumeration record book”) yw llyfr sydd wedi'i argraffu gan yr Awdurdod ac sy'n cynnwys—
(a)cyfeiriadau aelwydydd mewn dosbarth cyfrifo y mae'n rhaid i swyddog cyfrifiad ddosbarthu pecynnau aelwyd iddynt â llaw;
(b)y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur H2 sydd i'w ddosbarthu i'r cyfeiriadau hynny; ac
(c)lle i swyddog cyfrifiad gofnodi gwybodaeth am y canlynol—
(i)unrhyw aelwydydd ychwanegol y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt; a
(ii)dosbarthu pob pecyn aelwyd a phob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: