Paratoi pecynnau6

1

Rhaid i'r Awdurdod baratoi unrhyw becynnau unigol rheolaidd, pecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw, pecynnau aelwyd a phecynnau sefydliad cymunedol yn unol â'r rheoliad hwn y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.

2

Rhaid i gynnwys pob pecyn a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn gael ei gynnwys mewn amlen o dan sêl (“amlen ddosbarthu”), (“delivery envelope”) y gall unrhyw gyfeiriad sydd wedi'i argraffu ar yr holiadur gael ei weld drwyddi.

3

Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn unigol rheolaidd gynnwys—

a

copi o holiadur I2;

b

copi o holiadur I2W;

c

unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur I2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur I2W; ac

ch

amlen ffurflen unigol.

4

Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw gynnwys—

a

copi o holiadur I2;

b

copi o holiadur I2W;

c

unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur I2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur I2W; ac

ch

amlen wedi'i thalu ymlaen llaw.

5

Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn aelwyd gynnwys—

a

copi o holiadur H2;

b

copi o holiadur H2W;

c

unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur H2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur H2W; ac

ch

amlen wedi'i thalu ymlaen llaw.

6

Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn sefydliad cymunedol gynnwys—

a

copi o holiadur CE1;

b

copi o holiadur CE2W; ac

c

unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur CE1 ac i lenwi a dychwelyd holiadur CE2W.