Holiaduron5

1

Dim ond pan fydd holiadur sydd wedi'i lenwi yn dod i law'r Awdurdod y bydd dyletswydd person rhagnodedig i lenwi ffurflen, sydd wedi'i nodi yng Ngorchymyn y Cyfrifiad, wedi'i chyflawni.

2

Yr holiadur sydd i'w lenwi gan berson rhagnodedig a grybwyllir yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 1 yw'r holiadur ac iddo'r teitl a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) (fersiwn Saesneg) neu golofn (3) (fersiwn Cymraeg) o'r tabl hwnnw ac sydd wedi'i nodi o dan y teitl hwnnw yn Atodlenni 2 i 4.

3

Rhaid i bob person rhagnodedig gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn yr holiadur sydd i'w lenwi ganddo gan ddarparu unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur ac y mae'n ofynnol iddo ei darparu o dan Orchymyn y Cyfrifiad.

4

Caiff person sy'n bodloni'r amodau sydd wedi'u rhagnodi yn erthygl 5(5) o Orchymyn y Cyfrifiad ac sydd, drwy roi hysbysiad sy'n dod i law'r Awdurdod, yn ethol llenwi ffurflen unigol, lenwi'r ffurflen honno ar holiadur I2 neu holiadur I2W.

5

Rhaid i bob etholwr sy'n llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W (yn ôl fel y digwydd) gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn holiadur I2 neu holiadur I2W (yn ôl fel y digwydd) gan ddarparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur hwnnw.

6

Rhaid i bob holiadur fod â'r nodau adnabod holiadur wedi'u hargraffu arno ac yn achos pob un o holiaduron H2, H2W, I2, ac I2W rhaid hefyd iddynt fod â chod mynediad rhyngrwyd wedi'i argraffu arno sy'n unigryw i bob holiadur penodol ac a ddefnyddir os bydd y person rhagnodedig yn llenwi'r wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur yn electronig.

7

Caiff yr Awdurdod ddarparu system electronig i gadw cofnod o'r canlynol—

a

nodau adnabod holiadur pob holiadur;

b

cod mynediad rhyngrwyd pob holiadur H2, H2W, I2, ac I2W;

c

yr aelwyd neu'r sefydliad cymunedol y mae pob holiadur wedi'i anfon neu wedi'i ddosbarthu iddynt yn unol â'r Rheoliadau hyn;

ch

amgylchiadau dosbarthu pob pecyn unigol rheolaidd, pob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw, pob pecyn aelwyd a phob pecyn sefydliad cymunedol a ddosbarthwyd gan swyddog cyfrifiad;

d

y dyddiad y daeth pob holiadur a ddaeth i law'r Awdurdod i law a thrwy ba fodd y daeth i law;

dd

y dyddiad y cafodd unrhyw gofnod ei wneud yn unol â rheoliad 10(6) neu 13(7) a'r person rhagnodedig y cafodd ei wneud mewn perthynas ag ef; ac

e

unrhyw wybodaeth arall y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i gynnal y cyfrifiad.