Dehongli3

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “amlen ffurflen unigol” (“individual return envelope”) yw amlen y caniateir selio holiadur I2 neu I2W ynddi ar ôl ei llenwi;

  • ystyr “amlen wedi'i thalu ymlaen llaw” (“reply-paid envelope”) yw amlen sydd wedi'i chyfeirio ymlaen llaw ac nad oes angen i'r anfonwr dalu i'w hanfon;

  • ystyr “ardal cydgysylltydd” (“co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b);

  • ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf 2007;

  • ystyr “cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b);

  • ystyr “y cyfrifiad” (“the census”) yw'r cyfrifiad y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfarwyddo ei gynnal;

  • ystyr “Deddf 1920” (“the 1920 Act”) yw Deddf y Cyfrifiad 1920;

  • ystyr “Ddeddf 2007” (“the 2007 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 20074;

  • ystyr “dosbarth cyfrifo” (“enumeration district”) yw dosbarth a grëir o dan reoliad 4(1)(c);

  • ystyr “etholwr” (“elector”) yw person sy'n ethol llenwi ffurflen unigol yn unol â rheoliad 5(4);

  • ystyr “y gofrestr cyfeiriadau” (“the address register”) yw'r gofrestr, a baratoir gan yr Awdurdod, sy'n cynnwys cyfeiriad pob aelwyd a phob sefydliad cymunedol yng Nghymru y mae'n ymwybodol ohonynt;

  • ystyr “Gorchymyn y Cyfrifiad” (“the Census Order”) yw Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 20095;

  • mae i “gwybodaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal information” gan adran 39(2) o Ddeddf 2007;

  • ystyr “nodau adnabod holiadur” (“questionnaire identification marks”) yw cod bar sy'n unigryw i bob holiadur penodol a rhif cyfeirnod cyfatebol y mae'r cod bar yn ei gynrychioli;

  • ystyr “pecyn aelwyd” (“household pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(5);

  • ystyr “pecyn sefydliad cymunedol” (“communal establishment pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(6);

  • ystyr “pecyn unigol rheolaidd” (“regular individual pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(3);

  • ystyr “pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw” (“reply-paid individual pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(4);

  • ystyr “penodai” (“appointee”) yw unrhyw berson a benodir o dan reoliad 4 neu a benodir cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion cynnal y cyfrifiad;

  • ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen neu unrhyw berson sy'n llenwi ffurflen ar ran person o'r fath yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad;

  • ystyr “sefydliad cymunedol” (“communal establishment”) yw unrhyw sefydliad a bennir yng Ngrwpiau B i F yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad;

  • ystyr “swyddog cyfrifiad” (“census officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c); ac

  • ystyr “y system olrhain holiaduron” (“the questionnaire tracking system”) yw unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod o dan reoliad 5(7).

2

Mae i dermau y mae eu ffurfiau Saesneg wedi'u diffinio yng Ngorchymyn y Cyfrifiad yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.

3

Yn fersiwn Cymraeg y Rheoliadau hyn—

a

y gair Cymraeg sy'n cyfateb i “household” yw “aelwyd”; a

b

y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i “householder” yw “deiliad aelwyd”.

4

Yn fersiynau Cymraeg yr holiaduron—

a

y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i “household” yw “cartref” ac “aelodau o'r cartref” (yn ôl fel y digwydd); a

b

y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i “householder” yw “deiliad cartref”.

5

Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad, holiadur neu wybodaeth arall yn dod i law'r Awdurdod yn cyfeirio at yr hysbysiad, yr holiadur neu'r wybodaeth yn dod i law swyddog cyfrifiad yn bersonol, neu'n dod i law'r Awdurdod neu unrhyw benodai drwy'r post neu'n electronig.

6

Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at holiadur lle y mae'n cael ei ddilyn yn union gan lythyren adnabod yn gyfeiriad at yr holiadur sy'n cael ei adnabod â'r llythyren honno ac y cyfeirir ato yn y tabl yn Atodlen 1 ac sydd wedi'i nodi yn unrhyw rai o Atodlenni 2 i 4 neu holiadur i'r un perwyl.

7

Ni fydd person rhagnodedig yn torri'r Rheoliadau hyn dim ond am ei fod wedi dychwelyd fersiwn Saesneg holiadur gan ddarparu rhywfaint o'r wybodaeth y mae'r holiadur yn hwnnw'n gofyn amdani a fersiwn Cymraeg yr holiadur hwnnw gan ddarparu gweddill yr wybodaeth honno.