- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “amlen ffurflen unigol” (“individual return envelope”) yw amlen y caniateir selio holiadur I2 neu I2W ynddi ar ôl ei llenwi;
ystyr “amlen wedi'i thalu ymlaen llaw” (“reply-paid envelope”) yw amlen sydd wedi'i chyfeirio ymlaen llaw ac nad oes angen i'r anfonwr dalu i'w hanfon;
ystyr “ardal cydgysylltydd” (“co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b);
ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf 2007;
ystyr “cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b);
ystyr “y cyfrifiad” (“the census”) yw'r cyfrifiad y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfarwyddo ei gynnal;
ystyr “Deddf 1920” (“the 1920 Act”) yw Deddf y Cyfrifiad 1920;
ystyr “Ddeddf 2007” (“the 2007 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007(1);
ystyr “dosbarth cyfrifo” (“enumeration district”) yw dosbarth a grëir o dan reoliad 4(1)(c);
ystyr “etholwr” (“elector”) yw person sy'n ethol llenwi ffurflen unigol yn unol â rheoliad 5(4);
ystyr “y gofrestr cyfeiriadau” (“the address register”) yw'r gofrestr, a baratoir gan yr Awdurdod, sy'n cynnwys cyfeiriad pob aelwyd a phob sefydliad cymunedol yng Nghymru y mae'n ymwybodol ohonynt;
ystyr “Gorchymyn y Cyfrifiad” (“the Census Order”) yw Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2009(2);
mae i “gwybodaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal information” gan adran 39(2) o Ddeddf 2007;
ystyr “nodau adnabod holiadur” (“questionnaire identification marks”) yw cod bar sy'n unigryw i bob holiadur penodol a rhif cyfeirnod cyfatebol y mae'r cod bar yn ei gynrychioli;
ystyr “pecyn aelwyd” (“household pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(5);
ystyr “pecyn sefydliad cymunedol” (“communal establishment pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(6);
ystyr “pecyn unigol rheolaidd” (“regular individual pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(3);
ystyr “pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw” (“reply-paid individual pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(4);
ystyr “penodai” (“appointee”) yw unrhyw berson a benodir o dan reoliad 4 neu a benodir cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion cynnal y cyfrifiad;
ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen neu unrhyw berson sy'n llenwi ffurflen ar ran person o'r fath yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “sefydliad cymunedol” (“communal establishment”) yw unrhyw sefydliad a bennir yng Ngrwpiau B i F yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “swyddog cyfrifiad” (“census officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c); ac
ystyr “y system olrhain holiaduron” (“the questionnaire tracking system”) yw unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod o dan reoliad 5(7).
(2) Mae i dermau y mae eu ffurfiau Saesneg wedi'u diffinio yng Ngorchymyn y Cyfrifiad yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.
(3) Yn fersiwn Cymraeg y Rheoliadau hyn—
(a)y gair Cymraeg sy'n cyfateb i “household” yw “aelwyd”; a
(b)y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i “householder” yw “deiliad aelwyd”.
(4) Yn fersiynau Cymraeg yr holiaduron—
(a)y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i “household” yw “cartref” ac “aelodau o'r cartref” (yn ôl fel y digwydd); a
(b)y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i “householder” yw “deiliad cartref”.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad, holiadur neu wybodaeth arall yn dod i law'r Awdurdod yn cyfeirio at yr hysbysiad, yr holiadur neu'r wybodaeth yn dod i law swyddog cyfrifiad yn bersonol, neu'n dod i law'r Awdurdod neu unrhyw benodai drwy'r post neu'n electronig.
(6) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at holiadur lle y mae'n cael ei ddilyn yn union gan lythyren adnabod yn gyfeiriad at yr holiadur sy'n cael ei adnabod â'r llythyren honno ac y cyfeirir ato yn y tabl yn Atodlen 1 ac sydd wedi'i nodi yn unrhyw rai o Atodlenni 2 i 4 neu holiadur i'r un perwyl.
(7) Ni fydd person rhagnodedig yn torri'r Rheoliadau hyn dim ond am ei fod wedi dychwelyd fersiwn Saesneg holiadur gan ddarparu rhywfaint o'r wybodaeth y mae'r holiadur yn hwnnw'n gofyn amdani a fersiwn Cymraeg yr holiadur hwnnw gan ddarparu gweddill yr wybodaeth honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: