- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Rhaid i bob penodai y bydd yr Awdurdod yn rhoi caniatâd iddo olygu, copïo neu dynnu data o'r storfeydd data electronig roi datganiad statudol yn y ffurf yn Atodlen 5, yn unol â'r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael ei benodi gan yr Awdurdod neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, p'un bynnag fydd olaf.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob penodai nad yw'n ofynnol iddo gwblhau datganiad statudol o dan baragraff (1) lenwi ffurflen yr ymrwymiad a nodir yn Atodlen 6, yn unol â'r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael ei benodi neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, p'un bynnag fydd olaf.
(3) Ni fydd yn ofynnol i unrhyw benodai a benodwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a lenwodd ffurflen ymrwymiad sydd yr un fath neu sydd i'r un perwyl â'r ymrwymiad yn Atodlen 6, lenwi ymrwymiad arall yn rhinwedd y rheoliad hwn.
(4) At ddibenion paragraff (1), ystyr “storfeydd data electronig” (“electronic data repositories”) yw unrhyw rai o'r systemau electronig a ddefnyddir er mwyn storio'r manylion a gofnodir yn yr holl holiaduron a fydd yn dod i law'r Awdurdod a ddynodir gan yr Awdurdod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: