Y weithdrefn os na chaiff yr Awdurdod holiadur neu os caiff holiadur anghyflawn13

1

Rhaid i'r Awdurdod wirio'r cofnodion yn y system olrhain holiaduron i weld a yw pob holiadur a anfonwyd neu a ddosbarthwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn wedi dod i law'r Awdurdod.

2

Wedyn rhaid i'r Awdurdod ddyroddi rhestr i bob cydgysylltydd cyfrifiad a honno'n cynnwys y cyfeiriadau ym mhob dosbarth cyfrifo yn ei ardal cydgysylltydd y cafodd holiadur ei anfon neu ei ddosbarthu iddynt heb ei ddychwelyd.

3

Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad roi i'r swyddogion cyfrifiad a benodir i weithredu yn eu hardal cydgysylltydd gopïau o'r rhestr a grëir o dan baragraff (2) a chyfarwyddo'r swyddogion cyfrifiad hynny i wneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn rhesymol gydag unrhyw berson er mwyn sicrhau'r manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson rhagnodedig eu darparu.

4

Pan fo swyddog cyfrifiad wedi gwneud ymholiadau o dan baragraff (3) gyda pherson rhagnodedig nad oes holiadur wedi dod i law mewn perthynas ag ef caiff y swyddog—

a

casglu holiadur wedi'i lenwi;

b

cytuno y caniateir i'r holiadur wedi'i lenwi gael ei ddychwelyd drwy ei bostio yn yr amlen wedi'i thalu a ddarparwyd; neu

c

dosbarthu holiadur newydd a gwneud unrhyw drefniadau i gasglu'r holiadur y mae'r swyddog yn credu eu bod yn addas.

5

Pan fo holiadur yn dod i law'r Awdurdod yn dilyn ymholiadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod holiadur wedi dod i law.

6

Pan fo holiadur yn dod i law'r Awdurdod ond nad yw'n cynnwys rhai neu'r cyfan o'r manylion y mae'n ofynnol o dan Orchymyn y Cyfrifiad i'r person rhagnodedig eu darparu yna caiff penodai, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn rhesymol gydag unrhyw berson er mwyn sicrhau'r manylion coll a chofnodi'r atebion i'r ymholiadau hynny y caniateir eu defnyddio at ddibenion y cyfrifiad.

7

Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai wneud cofnod yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o'r fath wedi'i wneud mewn perthynas â'r person rhagnodedig hwnnw.