Cynnal y cyfrifiad ar gyfer personau yng Ngrŵp G12
Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud trefniadau yn ei ardal cydgysylltydd—
a
i holiadur I2 neu I2W gael ei lenwi a'i ddychwelyd gan neu ar ran y personau rhagnodedig yng Ngrŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; a
b
i holiadur CE1 neu CE2W gael ei lenwi mewn perthynas ag unrhyw grŵp o bersonau rhagnodedig yng Ngrŵp G y dychwelir holiaduron ganddynt neu ar eu rhan o dan baragraff (a).