Dychwelyd holiaduron sefydliadau cymunedol11
1
Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecynnau wedi'u dosbarthu iddo mewn sefydliad cymunedol neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn lenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol.
2
Rhaid i bob person rhagnodedig y trosglwyddwyd pecyn unigol rheolaidd neu becyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw iddo o dan reoliad 9(4) drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol—
a
llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W, ei osod yn yr amlen ffurflen unigol a ddarparwyd a'i throsglwyddo i'r person sy'n llenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W mewn perthynas â'r sefydliad cymunedol;
b
llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw (os oes un wedi'i darparu) ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu
c
dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur I2 neu holiadur I2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.
3
Rhaid i'r person sy'n llenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W mewn perthynas â sefydliad cymunedol gasglu pob copi o holiadur I2 neu holiadur I2W a drosglwyddwyd yn unol â pharagraff (2)(a) a'u cadw'n ddiogel, ynghyd â'r holiadur CE1 neu'r holiadur CE2W sydd wedi'u llenwi, nes i'r holiaduron gael eu casglu gan swyddog cyfrifiad yn unol â pharagraff (4).
4
Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad wneud trefniadau i swyddog cyfrifiad gasglu'r copïau o holiadur I2 neu I2W ac CE1 neu CE2W sydd wedi'u llenwi o bob sefydliad cymunedol.
5
Mewn perthynas â phob holiadur I2 neu I2W ac CE1 neu CE2W a gesglir yn unol â'r rheoliad hwn rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig ar gyfer y dosbarth cyfrifo hwnnw.
6
Rhaid i'r swyddog cyfrifiad drosglwyddo'r holiaduron a gesglir o dan baragraff (4) a'r cofnodion a baratoir o dan baragraff (5) i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i dangos bod holiaduron wedi dod i law o'r cyfeiriad hwnnw.
7
Pan fo holiadur I2 neu I2W sydd wedi'i lenwi wedi dod i law'r Awdurdod yn electronig, rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod cadarnhad ei fod wedi dod i law yn cael ei anfon yn electronig at y person sy'n dychwelyd yr holiadur.