- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecynnau wedi'u dosbarthu iddo mewn sefydliad cymunedol neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn lenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(2) Rhaid i bob person rhagnodedig y trosglwyddwyd pecyn unigol rheolaidd neu becyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw iddo o dan reoliad 9(4) drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol—
(a)llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W, ei osod yn yr amlen ffurflen unigol a ddarparwyd a'i throsglwyddo i'r person sy'n llenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W mewn perthynas â'r sefydliad cymunedol;
(b)llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw (os oes un wedi'i darparu) ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu
(c)dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur I2 neu holiadur I2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.
(3) Rhaid i'r person sy'n llenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W mewn perthynas â sefydliad cymunedol gasglu pob copi o holiadur I2 neu holiadur I2W a drosglwyddwyd yn unol â pharagraff (2)(a) a'u cadw'n ddiogel, ynghyd â'r holiadur CE1 neu'r holiadur CE2W sydd wedi'u llenwi, nes i'r holiaduron gael eu casglu gan swyddog cyfrifiad yn unol â pharagraff (4).
(4) Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad wneud trefniadau i swyddog cyfrifiad gasglu'r copïau o holiadur I2 neu I2W ac CE1 neu CE2W sydd wedi'u llenwi o bob sefydliad cymunedol.
(5) Mewn perthynas â phob holiadur I2 neu I2W ac CE1 neu CE2W a gesglir yn unol â'r rheoliad hwn rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig ar gyfer y dosbarth cyfrifo hwnnw.
(6) Rhaid i'r swyddog cyfrifiad drosglwyddo'r holiaduron a gesglir o dan baragraff (4) a'r cofnodion a baratoir o dan baragraff (5) i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i dangos bod holiaduron wedi dod i law o'r cyfeiriad hwnnw.
(7) Pan fo holiadur I2 neu I2W sydd wedi'i lenwi wedi dod i law'r Awdurdod yn electronig, rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod cadarnhad ei fod wedi dod i law yn cael ei anfon yn electronig at y person sy'n dychwelyd yr holiadur.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: