Dychwelyd holiaduron aelwydydd ac etholwyr10
1
Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn aelwyd wedi'i ddosbarthu iddo neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol—
a
llenwi'r copi o holiadur H2 neu holiadur H2W a gynhwyswyd yn y pecyn, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw a ddarparwyd ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu
b
dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur H2 neu holiadur H2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol â'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.
2
Caiff pob etholwr y mae pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw wedi'i ddosbarthu iddo neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol—
a
llenwi'r copi o holiadur I2 neu holiadur I2W a gynhwyswyd yn y pecyn, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw a ddarparwyd ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu
b
dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur I2 neu holiadur I2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.
3
Cyn gynted â phosibl ar ôl i bob holiadur I2 neu I2W, neu H2 neu H2W sydd wedi'u llenwi ddod i law'r Awdurdod, rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod yr holiadur perthnasol wedi'i ddychwelyd.
4
Ar ôl i holiadur I2 neu I2W, neu H2 neu H2W sydd wedi'u llenwi ddod i law'r Awdurdod yn electronig, rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod cadarnhad ei fod wedi dod i law yn cael ei anfon yn electronig at y person sy'n dychwelyd yr holiadur.
5
Pan fo penodai yn fodlon, ar ôl siarad â pherson rhagnodedig at ddibenion erthyglau 5(1) neu (3) o Orchymyn y Cyfrifiad, nad yw'r person rhagnodedig o dan sylw—
a
yn gallu llenwi holiadur a'i ddychwelyd; a
b
yn alluog i awdurdodi unrhyw berson i weithredu ar ei ran,
yna caiff y penodai, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud ymholiadau ynghylch y manylion y byddai'n ofynnol o dan Orchymyn y Cyfrifiad i'r person rhagnodedig hwnnw eu rhoi a chofnodi'r atebion i'r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddibenion y cyfrifiad.
6
Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai wneud cofnod yn unol â pharagraff (5), rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o dan baragraff (5) wedi'i wneud mewn perthynas â'r person rhagnodedig hwnnw.