Search Legislation

Rheoliadau'r Cyfrifiad (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enw, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cyfrifiad (Cymru) 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru a deuant i rym ar 16 Mehefin 2010.

Diddymu

2.  Mae Rheoliadau'r Cyfrifiad 2000(1) a Rheoliadau'r Cyfrifiad (Diwygio) 2000(2) wedi'u diddymu.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “amlen ffurflen unigol” (“individual return envelope”) yw amlen y caniateir selio holiadur I2 neu I2W ynddi ar ôl ei llenwi;

  • ystyr “amlen wedi'i thalu ymlaen llaw” (“reply-paid envelope”) yw amlen sydd wedi'i chyfeirio ymlaen llaw ac nad oes angen i'r anfonwr dalu i'w hanfon;

  • ystyr “ardal cydgysylltydd” (“co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b);

  • ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf 2007;

  • ystyr “cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b);

  • ystyr “y cyfrifiad” (“the census”) yw'r cyfrifiad y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfarwyddo ei gynnal;

  • ystyr “Deddf 1920” (“the 1920 Act”) yw Deddf y Cyfrifiad 1920;

  • ystyr “Ddeddf 2007” (“the 2007 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007(3);

  • ystyr “dosbarth cyfrifo” (“enumeration district”) yw dosbarth a grëir o dan reoliad 4(1)(c);

  • ystyr “etholwr” (“elector”) yw person sy'n ethol llenwi ffurflen unigol yn unol â rheoliad 5(4);

  • ystyr “y gofrestr cyfeiriadau” (“the address register”) yw'r gofrestr, a baratoir gan yr Awdurdod, sy'n cynnwys cyfeiriad pob aelwyd a phob sefydliad cymunedol yng Nghymru y mae'n ymwybodol ohonynt;

  • ystyr “Gorchymyn y Cyfrifiad” (“the Census Order”) yw Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2009(4);

  • mae i “gwybodaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal information” gan adran 39(2) o Ddeddf 2007;

  • ystyr “nodau adnabod holiadur” (“questionnaire identification marks”) yw cod bar sy'n unigryw i bob holiadur penodol a rhif cyfeirnod cyfatebol y mae'r cod bar yn ei gynrychioli;

  • ystyr “pecyn aelwyd” (“household pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(5);

  • ystyr “pecyn sefydliad cymunedol” (“communal establishment pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(6);

  • ystyr “pecyn unigol rheolaidd” (“regular individual pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(3);

  • ystyr “pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw” (“reply-paid individual pack”) yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(4);

  • ystyr “penodai” (“appointee”) yw unrhyw berson a benodir o dan reoliad 4 neu a benodir cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion cynnal y cyfrifiad;

  • ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen neu unrhyw berson sy'n llenwi ffurflen ar ran person o'r fath yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad;

  • ystyr “sefydliad cymunedol” (“communal establishment”) yw unrhyw sefydliad a bennir yng Ngrwpiau B i F yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad;

  • ystyr “swyddog cyfrifiad” (“census officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c); ac

  • ystyr “y system olrhain holiaduron” (“the questionnaire tracking system”) yw unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod o dan reoliad 5(7).

(2Mae i dermau y mae eu ffurfiau Saesneg wedi'u diffinio yng Ngorchymyn y Cyfrifiad yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.

(3Yn fersiwn Cymraeg y Rheoliadau hyn—

(a)y gair Cymraeg sy'n cyfateb i “household” yw “aelwyd”; a

(b)y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i “householder” yw “deiliad aelwyd”.

(4Yn fersiynau Cymraeg yr holiaduron—

(a)y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i “household” yw “cartref” ac “aelodau o'r cartref” (yn ôl fel y digwydd); a

(b)y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i “householder” yw “deiliad cartref”.

(5Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad, holiadur neu wybodaeth arall yn dod i law'r Awdurdod yn cyfeirio at yr hysbysiad, yr holiadur neu'r wybodaeth yn dod i law swyddog cyfrifiad yn bersonol, neu'n dod i law'r Awdurdod neu unrhyw benodai drwy'r post neu'n electronig.

(6Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at holiadur lle y mae'n cael ei ddilyn yn union gan lythyren adnabod yn gyfeiriad at yr holiadur sy'n cael ei adnabod â'r llythyren honno ac y cyfeirir ato yn y tabl yn Atodlen 1 ac sydd wedi'i nodi yn unrhyw rai o Atodlenni 2 i 4 neu holiadur i'r un perwyl.

(7Ni fydd person rhagnodedig yn torri'r Rheoliadau hyn dim ond am ei fod wedi dychwelyd fersiwn Saesneg holiadur gan ddarparu rhywfaint o'r wybodaeth y mae'r holiadur yn hwnnw'n gofyn amdani a fersiwn Cymraeg yr holiadur hwnnw gan ddarparu gweddill yr wybodaeth honno.

Rhaniadau gweinyddol a phenodiadau

4.—(1At ddibenion y cyfrifiad, rhaid i'r Awdurdod—

(a)rhannu Cymru'n ardaloedd cyfrifiad a phenodi rheolwr ardal i bob ardal gyfrifiad;

(b)rhannu pob ardal gyfrifiad yn ardaloedd cydgysylltwyr a phenodi cydgysylltydd cyfrifiad i bob ardal cydgysylltydd; ac

(c)rhannu pob ardal cydgysylltydd yn ddosbarthau cyfrifo a phenodi cynifer o swyddogion cyfrifiad y mae'n credu bod eu hangen er mwyn cynnal y cyfrifiad yn y dosbarthau hynny, yn unol â Deddf 1920 a'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff yr Awdurdod hefyd benodi cynifer o bersonau eraill y mae'n credu bod eu hangen i gynnal y cyfrifiad.

(3Rhaid i'r personau a benodir o dan y rheoliad hwn gyflawni'r dyletswyddau a ddyrennir iddynt o dan Ddeddf 1920 a'r Rheoliadau hyn a rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Holiaduron

5.—(1Dim ond pan fydd holiadur sydd wedi'i lenwi yn dod i law'r Awdurdod y bydd dyletswydd person rhagnodedig i lenwi ffurflen, sydd wedi'i nodi yng Ngorchymyn y Cyfrifiad, wedi'i chyflawni.

(2Yr holiadur sydd i'w lenwi gan berson rhagnodedig a grybwyllir yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 1 yw'r holiadur ac iddo'r teitl a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) (fersiwn Saesneg) neu golofn (3) (fersiwn Cymraeg) o'r tabl hwnnw ac sydd wedi'i nodi o dan y teitl hwnnw yn Atodlenni 2 i 4.

(3Rhaid i bob person rhagnodedig gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn yr holiadur sydd i'w lenwi ganddo gan ddarparu unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur ac y mae'n ofynnol iddo ei darparu o dan Orchymyn y Cyfrifiad.

(4Caiff person sy'n bodloni'r amodau sydd wedi'u rhagnodi yn erthygl 5(5) o Orchymyn y Cyfrifiad ac sydd, drwy roi hysbysiad sy'n dod i law'r Awdurdod, yn ethol llenwi ffurflen unigol, lenwi'r ffurflen honno ar holiadur I2 neu holiadur I2W.

(5Rhaid i bob etholwr sy'n llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W (yn ôl fel y digwydd) gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn holiadur I2 neu holiadur I2W (yn ôl fel y digwydd) gan ddarparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur hwnnw.

(6Rhaid i bob holiadur fod â'r nodau adnabod holiadur wedi'u hargraffu arno ac yn achos pob un o holiaduron H2, H2W, I2, ac I2W rhaid hefyd iddynt fod â chod mynediad rhyngrwyd wedi'i argraffu arno sy'n unigryw i bob holiadur penodol ac a ddefnyddir os bydd y person rhagnodedig yn llenwi'r wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur yn electronig.

(7Caiff yr Awdurdod ddarparu system electronig i gadw cofnod o'r canlynol—

(a)nodau adnabod holiadur pob holiadur;

(b)cod mynediad rhyngrwyd pob holiadur H2, H2W, I2, ac I2W;

(c)yr aelwyd neu'r sefydliad cymunedol y mae pob holiadur wedi'i anfon neu wedi'i ddosbarthu iddynt yn unol â'r Rheoliadau hyn;

(ch)amgylchiadau dosbarthu pob pecyn unigol rheolaidd, pob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw, pob pecyn aelwyd a phob pecyn sefydliad cymunedol a ddosbarthwyd gan swyddog cyfrifiad;

(d)y dyddiad y daeth pob holiadur a ddaeth i law'r Awdurdod i law a thrwy ba fodd y daeth i law;

(dd)y dyddiad y cafodd unrhyw gofnod ei wneud yn unol â rheoliad 10(6) neu 13(7) a'r person rhagnodedig y cafodd ei wneud mewn perthynas ag ef; ac

(e)unrhyw wybodaeth arall y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i gynnal y cyfrifiad.

Paratoi pecynnau

6.—(1Rhaid i'r Awdurdod baratoi unrhyw becynnau unigol rheolaidd, pecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw, pecynnau aelwyd a phecynnau sefydliad cymunedol yn unol â'r rheoliad hwn y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.

(2Rhaid i gynnwys pob pecyn a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn gael ei gynnwys mewn amlen o dan sêl (“amlen ddosbarthu”), (“delivery envelope”) y gall unrhyw gyfeiriad sydd wedi'i argraffu ar yr holiadur gael ei weld drwyddi.

(3Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn unigol rheolaidd gynnwys—

(a)copi o holiadur I2;

(b)copi o holiadur I2W;

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur I2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur I2W; ac

(ch)amlen ffurflen unigol.

(4Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw gynnwys—

(a)copi o holiadur I2;

(b)copi o holiadur I2W;

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur I2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur I2W; ac

(ch)amlen wedi'i thalu ymlaen llaw.

(5Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn aelwyd gynnwys—

(a)copi o holiadur H2;

(b)copi o holiadur H2W;

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur H2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur H2W; ac

(ch)amlen wedi'i thalu ymlaen llaw.

(6Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn sefydliad cymunedol gynnwys—

(a)copi o holiadur CE1;

(b)copi o holiadur CE2W; ac

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur CE1 ac i lenwi a dychwelyd holiadur CE2W.

Anfon pecynnau at aelwydydd ac etholwyr drwy'r post

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r Awdurdod anfon pecyn aelwyd i bob aelwyd yn y gofrestr cyfeiriadau drwy'r post cyn diwrnod y cyfrifiad.

(2Caiff yr Awdurdod ddewis peidio ag anfon pecyn aelwyd drwy'r post, gan baratoi yn hytrach i'r cydgysylltydd cyfrifiad perthnasol drefnu dosbarthu'r pecyn hwnnw yn unol â rheoliad 8.

(3Caiff yr Awdurdod anfon pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw at unrhyw etholwr mewn cyfeiriad yn y gofrestr cyfeiriadau drwy'r post.

(4Mewn perthynas â phob pecyn a anfonir yn unol â pharagraff (1) neu (3), rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod cofnod yn cael ei wneud yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod y pecyn aelwyd penodol neu'r pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw penodol wedi'i anfon ac i ba gyfeiriad y mae wedi'i anfon.

Dosbarthu pecynnau i aelwydydd ac etholwyr â llaw

8.—(1Rhaid i'r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—

(a)unrhyw becynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad;

(b)rhestr sy'n cynnwys cyfeiriadau pob aelwyd yn y gofrestr cyfeiriadau sydd wedi'i lleoli yn ardal y cydgysylltydd hwnnw y mae'n rhaid dosbarthu pecyn aelwyd iddynt o dan y rheoliad hwn;

(c)llyfr cofnodion cyfrifo i bob dosbarth cyfrifo yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; ac

(ch)unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.

(2Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad ddynodi swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob dosbarth cyfrifo.

(3Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad roi i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2) gopi o'r llyfr cofnodion cyfrifo i'w ddosbarth cyfrifo ac wedyn rhaid i'r swyddog cyfrifiad ddosbarthu—

(a)pecyn aelwyd i bob aelwyd sy'n meddiannu annedd, neu ran o annedd, a grybwyllir yn y llyfr cofnodion cyfrifo;

(b)pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw i bob aelwyd sy'n cynnwys etholwr yn nosbarth cyfrifo'r swyddog cyfrifiad nad yw eisoes wedi cael pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw ac y mae'r cydgysylltydd cyfrifiad wedi rhoi gwybod amdano i'r swyddog; ac

(c)pecynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw (fel y bo'n briodol) i unrhyw aelwydydd neu etholwyr eraill y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt yn ei ddosbarth cyfrifo.

(4Bydd dyletswydd y swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecyn o dan baragraff (3) wedi'i chyflawni mewn perthynas â phob aelwyd ac etholwr os bydd y swyddog yn trosglwyddo'r pecyn i'r deiliad aelwyd, y cyd-ddeiliad aelwyd neu, os nad oes person o'r fath ar gael, os bydd y swyddog—

(a)yn gadael pecyn gyda pherson cyfrifol sy'n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw; neu

(b)os nad oes person cyfrifol ar gael, yn gadael y pecyn neu'n ei anfon drwy'r post i'r cyfeiriad yn y llyfr cofnodion cyfrifo neu'r cyfeiriad y rhoddodd y cydgysylltydd cyfrifiad wybod amdano i'r swyddog.

(5Mewn perthynas â phob pecyn aelwyd neu bob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw a ddosberthir yn unol â'r rheoliad hwn rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo.

(6Rhaid i bob swyddog cyfrifiad roi'r cofnodion yn y llyfr cofnodion cyfrifo i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i ddangos bod pecyn wedi'i ddosbarthu i bob cyfeiriad.

(7Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddosbarthu i fwy nag un dosbarth cyfrifo.

(8Yn y rheoliad hwn ystyr “llyfr cofnodion cyfrifo” (“enumeration record book”) yw llyfr sydd wedi'i argraffu gan yr Awdurdod ac sy'n cynnwys—

(a)cyfeiriadau aelwydydd mewn dosbarth cyfrifo y mae'n rhaid i swyddog cyfrifiad ddosbarthu pecynnau aelwyd iddynt â llaw;

(b)y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur H2 sydd i'w ddosbarthu i'r cyfeiriadau hynny; ac

(c)lle i swyddog cyfrifiad gofnodi gwybodaeth am y canlynol—

(i)unrhyw aelwydydd ychwanegol y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt; a

(ii)dosbarthu pob pecyn aelwyd a phob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw.

Dosbarthu pecynnau i sefydliadau cymunedol â llaw

9.—(1Rhaid i'r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—

(a)unrhyw becynnau sefydliad cymunedol, pecynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad;

(b)rhestr sy'n cynnwys cyfeiriadau pob sefydliad cymunedol sydd wedi'i leoli yn ardal y cydgysylltydd hwnnw y mae'n rhaid dosbarthu pecynnau iddynt o dan y rheoliad hwn;

(c)llyfr cofnodion cyfrifo arbennig i bob dosbarth cyfrifo yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; ac

(ch)unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.

(2Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad ddynodi swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau sefydliad cymunedol, pecynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob dosbarth cyfrifo.

(3Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad roi i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2) gopi o'r llyfr cofnodion cyfrifo arbennig i'w ddosbarth cyfrifo a chyfarwyddo'r swyddog cyfrifiad i ddosbarthu—

(a)pecyn sefydliad cymunedol i bob sefydliad cymunedol a grybwyllir yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig;

(b)nifer digonol o becynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob un o'r sefydliadau hynny at ddibenion y cyfrifiad; ac

(c)pecynnau sefydliad cymunedol, pecynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i unrhyw sefydliadau cymunedol eraill yn eu dosbarth cyfrifo y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt.

(4Bydd dyletswydd y swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau wedi'i chyflawni mewn perthynas â phob sefydliad cymunedol os caiff y pecynnau eu dosbarthu i'r person sydd am y tro â gofal y sefydliad cymunedol neu, os nad oes person o'r fath ar gael, os bydd y swyddog—

(a)yn eu gadael gyda pherson cyfrifol sy'n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw; neu

(b)os nad oes person cyfrifol ar gael, yn eu gadael yn y cyfeiriad sydd wedi'i nodi yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig.

(5Rhaid i'r person y dosbarthir pecynnau iddo o dan baragraff (3) drosglwyddo pecyn unigol rheolaidd neu becyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw i'r canlynol—

(a)pob person sydd fel arfer yn preswylio yn y fangre neu'r llong y mae'n ymddangos iddo eu bod yn gallu llenwi holiadur; neu

(b)i berthynas neu berson arall a fydd yn llenwi'r holiadur ar ran person sy'n dod o dan is-baragraff (a) ond nad yw'n gallu llenwi'r holiadur yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad.

(6Mewn perthynas â phob pecyn sefydliad cymunedol a phob pecyn unigol rheolaidd neu bob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw a ddosbarthir yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig.

(7Rhaid i bob swyddog cyfrifiad roi'r cofnodion yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i ddangos bod pecyn wedi'i ddosbarthu i bob cyfeiriad.

(8Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddosbarthu i fwy nag un dosbarth cyfrifo.

(9Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 11, ystyr “llyfr cofnodion cyfrifo arbennig” (“special enumeration record book”) yw llyfr sydd wedi'i argraffu gan yr Awdurdod ac sy'n cynnwys—

(a)cyfeiriad pob sefydliad cymunedol mewn dosbarth cyfrifo y mae'n rhaid i swyddog cyfrifiad ddosbarthu pecynnau sefydliad cymunedol a phecynnau unigol rheolaidd neu becynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw iddynt â llaw;

(b)y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur CE1 sydd i'w ddosbarthu mewn dosbarth cyfrifo;

(c)y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur I2 sydd i'w ddosbarthu i sefydliad cymunedol penodol mewn dosbarth cyfrifo; ac

(ch)lle i swyddog cyfrifiad gofnodi gwybodaeth am y canlynol—

(i)unrhyw sefydliadau cymunedol ychwanegol y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt;

(ii)dosbarthu pob pecyn sefydliad cymunedol, pob pecyn unigol rheolaidd a phob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw; a

(iii)casglu holiaduron.

Dychwelyd holiaduron aelwydydd ac etholwyr

10.—(1Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn aelwyd wedi'i ddosbarthu iddo neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol—

(a)llenwi'r copi o holiadur H2 neu holiadur H2W a gynhwyswyd yn y pecyn, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw a ddarparwyd ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu

(b)dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur H2 neu holiadur H2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol â'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.

(2Caiff pob etholwr y mae pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw wedi'i ddosbarthu iddo neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol—

(a)llenwi'r copi o holiadur I2 neu holiadur I2W a gynhwyswyd yn y pecyn, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw a ddarparwyd ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu

(b)dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur I2 neu holiadur I2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.

(3Cyn gynted â phosibl ar ôl i bob holiadur I2 neu I2W, neu H2 neu H2W sydd wedi'u llenwi ddod i law'r Awdurdod, rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod yr holiadur perthnasol wedi'i ddychwelyd.

(4Ar ôl i holiadur I2 neu I2W, neu H2 neu H2W sydd wedi'u llenwi ddod i law'r Awdurdod yn electronig, rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod cadarnhad ei fod wedi dod i law yn cael ei anfon yn electronig at y person sy'n dychwelyd yr holiadur.

(5Pan fo penodai yn fodlon, ar ôl siarad â pherson rhagnodedig at ddibenion erthyglau 5(1) neu (3) o Orchymyn y Cyfrifiad, nad yw'r person rhagnodedig o dan sylw—

(a)yn gallu llenwi holiadur a'i ddychwelyd; a

(b)yn alluog i awdurdodi unrhyw berson i weithredu ar ei ran,

yna caiff y penodai, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud ymholiadau ynghylch y manylion y byddai'n ofynnol o dan Orchymyn y Cyfrifiad i'r person rhagnodedig hwnnw eu rhoi a chofnodi'r atebion i'r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddibenion y cyfrifiad.

(6Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai wneud cofnod yn unol â pharagraff (5), rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o dan baragraff (5) wedi'i wneud mewn perthynas â'r person rhagnodedig hwnnw.

Dychwelyd holiaduron sefydliadau cymunedol

11.—(1Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecynnau wedi'u dosbarthu iddo mewn sefydliad cymunedol neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn lenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(2Rhaid i bob person rhagnodedig y trosglwyddwyd pecyn unigol rheolaidd neu becyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw iddo o dan reoliad 9(4) drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol—

(a)llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W, ei osod yn yr amlen ffurflen unigol a ddarparwyd a'i throsglwyddo i'r person sy'n llenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W mewn perthynas â'r sefydliad cymunedol;

(b)llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw (os oes un wedi'i darparu) ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu

(c)dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur I2 neu holiadur I2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.

(3Rhaid i'r person sy'n llenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W mewn perthynas â sefydliad cymunedol gasglu pob copi o holiadur I2 neu holiadur I2W a drosglwyddwyd yn unol â pharagraff (2)(a) a'u cadw'n ddiogel, ynghyd â'r holiadur CE1 neu'r holiadur CE2W sydd wedi'u llenwi, nes i'r holiaduron gael eu casglu gan swyddog cyfrifiad yn unol â pharagraff (4).

(4Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad wneud trefniadau i swyddog cyfrifiad gasglu'r copïau o holiadur I2 neu I2W ac CE1 neu CE2W sydd wedi'u llenwi o bob sefydliad cymunedol.

(5Mewn perthynas â phob holiadur I2 neu I2W ac CE1 neu CE2W a gesglir yn unol â'r rheoliad hwn rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig ar gyfer y dosbarth cyfrifo hwnnw.

(6Rhaid i'r swyddog cyfrifiad drosglwyddo'r holiaduron a gesglir o dan baragraff (4) a'r cofnodion a baratoir o dan baragraff (5) i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i dangos bod holiaduron wedi dod i law o'r cyfeiriad hwnnw.

(7Pan fo holiadur I2 neu I2W sydd wedi'i lenwi wedi dod i law'r Awdurdod yn electronig, rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod cadarnhad ei fod wedi dod i law yn cael ei anfon yn electronig at y person sy'n dychwelyd yr holiadur.

Cynnal y cyfrifiad ar gyfer personau yng Ngrŵp G

12.  Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud trefniadau yn ei ardal cydgysylltydd—

(a)i holiadur I2 neu I2W gael ei lenwi a'i ddychwelyd gan neu ar ran y personau rhagnodedig yng Ngrŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; a

(b)i holiadur CE1 neu CE2W gael ei lenwi mewn perthynas ag unrhyw grŵp o bersonau rhagnodedig yng Ngrŵp G y dychwelir holiaduron ganddynt neu ar eu rhan o dan baragraff (a).

Y weithdrefn os na chaiff yr Awdurdod holiadur neu os caiff holiadur anghyflawn

13.—(1Rhaid i'r Awdurdod wirio'r cofnodion yn y system olrhain holiaduron i weld a yw pob holiadur a anfonwyd neu a ddosbarthwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn wedi dod i law'r Awdurdod.

(2Wedyn rhaid i'r Awdurdod ddyroddi rhestr i bob cydgysylltydd cyfrifiad a honno'n cynnwys y cyfeiriadau ym mhob dosbarth cyfrifo yn ei ardal cydgysylltydd y cafodd holiadur ei anfon neu ei ddosbarthu iddynt heb ei ddychwelyd.

(3Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad roi i'r swyddogion cyfrifiad a benodir i weithredu yn eu hardal cydgysylltydd gopïau o'r rhestr a grëir o dan baragraff (2) a chyfarwyddo'r swyddogion cyfrifiad hynny i wneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn rhesymol gydag unrhyw berson er mwyn sicrhau'r manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson rhagnodedig eu darparu.

(4Pan fo swyddog cyfrifiad wedi gwneud ymholiadau o dan baragraff (3) gyda pherson rhagnodedig nad oes holiadur wedi dod i law mewn perthynas ag ef caiff y swyddog—

(a)casglu holiadur wedi'i lenwi;

(b)cytuno y caniateir i'r holiadur wedi'i lenwi gael ei ddychwelyd drwy ei bostio yn yr amlen wedi'i thalu a ddarparwyd; neu

(c)dosbarthu holiadur newydd a gwneud unrhyw drefniadau i gasglu'r holiadur y mae'r swyddog yn credu eu bod yn addas.

(5Pan fo holiadur yn dod i law'r Awdurdod yn dilyn ymholiadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod holiadur wedi dod i law.

(6Pan fo holiadur yn dod i law'r Awdurdod ond nad yw'n cynnwys rhai neu'r cyfan o'r manylion y mae'n ofynnol o dan Orchymyn y Cyfrifiad i'r person rhagnodedig eu darparu yna caiff penodai, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn rhesymol gydag unrhyw berson er mwyn sicrhau'r manylion coll a chofnodi'r atebion i'r ymholiadau hynny y caniateir eu defnyddio at ddibenion y cyfrifiad.

(7Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai wneud cofnod yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o'r fath wedi'i wneud mewn perthynas â'r person rhagnodedig hwnnw.

Rhoi gwybodaeth

14.—(1Rhaid i bob person y mae ffurflen i'w llenwi mewn perthynas ag ef o dan Orchymyn y Cyfrifiad roi i'r person rhagnodedig sy'n atebol am lenwi ffurflen unrhyw wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, y mae'n rhesymol i'r person rhagnodedig ofyn amdani er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i bob person rhagnodedig roi i unrhyw benodai unrhyw wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, y mae'n rhesymol i'r penodai ofyn amdani i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i berson y rhoddir gwybodaeth bersonol iddo yn unol â'r Rheoliadau hyn beidio â gwneud y canlynol heb awdurdod cyfreithlon—

(a)defnyddio'r wybodaeth honno; na

(b)ei chyhoeddi na'i mynegi i unrhyw berson arall.

Cadw holiaduron a dogfennau'n ddiogel

15.—(1Rhaid i unrhyw berson sydd, boed ar ei ran ei hun ynteu ar ran unrhyw berson arall, yn cadw holiaduron neu ddogfennau eraill (gan gynnwys dogfennau electronig) sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'r cyfrifiad gadw'r dogfennau hynny mewn modd sy'n atal unrhyw berson diawdurdod rhag eu cyrchu.

(2Pan gyfarwyddir unrhyw benodai i wneud hynny gan yr Awdurdod, rhaid iddo anfon i'r Awdurdod yr holl gofnodion ym meddiant y penodai hwnnw (gan gynnwys unrhyw gofnod electronig) sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'r cyfrifiad.

(3Rhaid i'r Awdurdod drefnu storio holiaduron, dyfeisiau storio electronig, neu ddogfennau eraill sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'r cyfrifiad yn ddiogel.

Datganiadau statudol ac ymrwymiadau

16.—(1Rhaid i bob penodai y bydd yr Awdurdod yn rhoi caniatâd iddo olygu, copïo neu dynnu data o'r storfeydd data electronig roi datganiad statudol yn y ffurf yn Atodlen 5, yn unol â'r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael ei benodi gan yr Awdurdod neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, p'un bynnag fydd olaf.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob penodai nad yw'n ofynnol iddo gwblhau datganiad statudol o dan baragraff (1) lenwi ffurflen yr ymrwymiad a nodir yn Atodlen 6, yn unol â'r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael ei benodi neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, p'un bynnag fydd olaf.

(3Ni fydd yn ofynnol i unrhyw benodai a benodwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a lenwodd ffurflen ymrwymiad sydd yr un fath neu sydd i'r un perwyl â'r ymrwymiad yn Atodlen 6, lenwi ymrwymiad arall yn rhinwedd y rheoliad hwn.

(4At ddibenion paragraff (1), ystyr “storfeydd data electronig” (“electronic data repositories”) yw unrhyw rai o'r systemau electronig a ddefnyddir er mwyn storio'r manylion a gofnodir yn yr holl holiaduron a fydd yn dod i law'r Awdurdod a ddynodir gan yr Awdurdod.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, un o Weinidogion Cymru

24 Ebrill 2010

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources