(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu am dalu treuliau teithio a pheidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar, ymhlith pobl eraill, bersonau sydd ar incwm isel, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.
Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a thalu treuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Mae Rheoliad 3 yn newid yr addasiad i reoliad 53 o Reoliadau 1987 drwy hepgor paragraff (1A). Yn gyffredinol, effaith hyn yw na fydd rhan o gyfalaf ceisyddion sy'n byw mewn mathau neilltuol o lety gofal preswyl, fel a bennir ym mharagraff (1B), yn cael ei thrin mwyach fel incwm at ddibenion cyfrifo hawl ceisyddion o dan y prif Reoliadau. Bydd y terfyn cyfalaf rhagnodedig (sy'n £22,000 ar hyn o bryd) yn dal i fod yn gymwys i'r cyfryw geisyddion.