2010 Rhif 1148 (Cy.103)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 162(5A) a 181(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 20061.

Mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo2.

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 a daw i rym ar y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y cafodd ei wneud.

Diwygio Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 20082

Yn adran 24(1) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 20083 yn y diffiniad o “awdurdod lleol” yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

Diwygio Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 20093

1

Diwygir Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 20094 fel a ganlyn.

2

Yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder “awdurdod lleol” ac yn lle “local education authority” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny (gan gynnwys yn y darpariaethau newydd a fewnosodir yn Neddf Dysgu a Medrau 2000) rhodder “local authority”.

3

Yn adran 44 yn y man priodol rhodder—

  • mae i “awdurdod lleol yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “local authority in Wales” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;

Diwygio Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 20094

1

Diwygir Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 20095 fel a ganlyn.

2

Yn adrannau 7 a 8 yn lle “local education authority” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder “local authority”.

3

Yn adran 11 yn lle'r diffiniad o “awdurdod lleol” rhodder y canlynol—

  • ystyr “awdurdod lleol” yw awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr “local authority in Wales” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;

Diwygio Mesur Addysg (Cymru) 20095

1

Diwygir Mesur Addysg (Cymru) 20096 fel a ganlyn.

2

Yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder “awdurdod lleol” ac yn lle “local education authority” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny (gan gynnwys yn y darpariaethau newydd a fewnosodir yn Neddf Addysg 1996 ac yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995) rhodder “local authority”.

3

Yn adran 10 ar ôl is-adran (5) o'r adran 28IB newydd o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 ychwaneger y canlynol—

6

In this section, sections 28IC, 28ID and 28IE “local authority” has the meaning given by section 579(1) of the Education Act 1996.

4

Yn adran 19(1) yn lle “awdurdodau addysg lleol” rhodder “awdurdodau lleol”.

Diwygio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20106

1

Diwygir Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20107 fel a ganlyn.

2

Hepgorer y geiriau “(awdurdodau gwasanaethau plant)” ym mhennawd adran 4.

3

Yn adran 4 yn lle “children’s services authority” ym mhob man lle y gwelir y geiriau hynny rhodder “local authority”.

Leighton AndrewsY Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli cyfeiriadau at awdurdodau addysg lleol ac awdurdodau gwasanaethau plant â chyfeiriadau at awdurdodau lleol mewn darpariaethau ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, Mesur Addysg (Cymru) 2009 a Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae integreiddio adrannau gwasanaethau cymdeithasol plant ac adrannau addysg mewn awdurdodau lleol yn cael ei adlewyrchu gan y newid hwn yn nefnydd y term awdurdod lleol (yn hytrach na chael y ddau derm, awdurdod addysg lleol ac awdurdod gwasanaethau plant i gyfeirio at yr un corff). Mae diwygiadau cyfatebol yn cael eu gwneud i ddarpariaethau mewn Deddfau sy'n gymwys i Gymru a Lloegr ill dwy yng Ngorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010, sy'n cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol.