(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli cyfeiriadau mewn rheoliadau a gorchmynion at awdurdodau addysg lleol ac awdurdodau gwasanaethau plant gan gyfeiriadau at awdurdodau lleol.
Mae integreiddio adrannau gwasanaethau plant ac adrannau addysg o fewn i awdurdodau lleol yn cael eu hadlewyrchu yn y newid hwn drwy ddefnyddio'r term awdurdod lleol (yn hytrach na chael y ddau derm awdurdod addysg lleol ac awdurdod gwasanaethau plant i gwmpasu'r un corff).