2010 Rhif 1069 (Cy.100)
BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), (26)(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) (Diwygio) 2010.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Ebrill 2010.

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 20094.

Diwygio Rheoliadau 20093.

(1)

Diwygir Rheoliadau 2009 fel a ganlyn.

(2)

Yn Atodlen 2 (Tabl o'r cofnodion i'w rhoi yn lle'r cofnodion presennol yn Nhabl B (mwynau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) yn Atodlen 6, Rhan II, i Reoliadau Labelu Bwyd 1996), yng Ngholofn 2, gyferbyn â “Potassium” yng Ngholofn 1, yn lle “200 mg” rhodder “2000 mg”.

Gwenda Thomas
Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ebrill 2010 ac y maent yn gymwys i Gymru. Maent yn cywiro gwall argraffyddol yn Atodlen 2 i Reoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2705 (Cy.224)).