2009 Rhif 851 (Cy.76)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer eu pwerau fel yr awdurdod priodol o dan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901.

Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 303(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru2.