(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol godi ffioedd am wasanaethau a ddarperir mewn cysylltiad â chwiliadau eiddo, yn benodol “mynediad i gofnodion eiddo” ac “ateb ymholiadau ynghylch eiddo”. Ymdrinnir yn rheoliad 2 â dehongli'r ddau ymadrodd, ynghyd ag ymadroddion perthnasol eraill.
Mae rheoliad 3 yn dirymu o ran eu cymhwyso i Gymru Reoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Tir) 1994 (“Rheoliadau 1994”), ond mae'n gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â'r ffioedd sydd i'w codi gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad â cheisiadau a ddaeth i law tra oedd y Rheoliadau hynny mewn grym. Dirymir Rheoliadau 1994 o ran eu cymhwyso i Loegr gan O.S. 2008/3248.
Mae rheoliad 4 yn darparu bod y trefniadau ar gyfer codi ffioedd a geir yn y Rheoliadau yn gymwys p'un ai o dan bwer y mae awdurdod lleol yn darparu'r gwasanaethau neu oherwydd bod arno ddyletswydd i'w darparu. Fodd bynnag, nid ydynt yn gymwys pan fo gan awdurdod lleol bwer arall i godi ffioedd neu pan fo dyletswydd arno i wneud hynny. Hefyd, nid ydynt yn gymwys mewn cysylltiad â mynediad i “wybodaeth statudol am ddim” (gweler rheoliad 2(3)).
Mae rheoliadau 5, 6 a 7 yn ymdrin â chyfrifo ffioedd am ganiatáu gan awdurdod lleol fynediad i gofnodion eiddo. Mae rheoliad 6 yn darparu bod yn rhaid i swm y ffioedd hyn beidio â bod yn fwy na swm costau caniatáu mynediad. Yn benodol, rhaid cyfrifo pob ffi a godir (“y ffi fesul uned”) drwy rannu amcangyfrif o gyfanswm costau blynyddol darparu mynediad ag amcangyfrif o nifer y ceisiadau sydd i ddod i law y flwyddyn honno. Gan mai ar amcangyfrifon y seilir y ffi fesul uned, mae paragraffau (4) ac (5) yn darparu bod yn rhaid i awdurdod lleol, dros gyfnod o dair blynedd olynol, sicrhau nad yw cyfanswm yr incwm sy'n deillio o ffioedd yn fwy na chyfanswm costau'r awdurdod. At hynny, os yw awdurdod lleol wedi amcangyfrif yn rhy isel neu wedi goramcangyfrif cyfanswm y costau blynyddol a ddefnyddir i gyfrifo'r gost fesul uned, rhaid iddo roi ystyriaeth i hyn pan fydd yn penderfynu ar ffioedd y flwyddyn ddilynol. Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer dehongli “costau”.
Mae rheoliad 8 yn rhoi i awdurdod lleol y pwer i godi ffioedd mewn cysylltiad ag ateb ymholiadau ynghylch eiddo. Rhaid i'r ffioedd hyn gymryd i ystyriaeth y costau y mae'r awdurdod lleol yn eu tynnu wrth ateb ymholiadau.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi bob blwyddyn wybodaeth benodol mewn cysylltiad â'r ffioedd a godir o dan y Rheoliadau hyn. Bob blwyddyn, rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud â ffioedd fesul uned. At hynny, o 2010 ymlaen, rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi crynodeb blynyddol o gyfanswm yr incwm a'r costau sy'n gysylltiedig â chaniatáu mynediad i gofnodion eiddo, a chrynodeb o gyfanswm yr incwm a geir o ateb ymholiadau. Rhaid i'r wybodaeth a gyhoeddir o dan reoliad 9 gael ei chymeradwyo gan y person a chanddo gyfrifoldeb dros faterion ariannol yr awdurdod.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn a gellir cael copi gan Llywodraeth Cynulliad Cymru, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729158).