Gwybodaeth9

1

Rhaid i fuddiolwr roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth am weithrediad a gymeradwywyd y caiff Gweinidogion Cymru ofyn yn rhesymol amdani o dro i dro.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth o dan baragraff (1), rhaid i'r buddiolwr roi'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o fewn y fath gyfnod ag y dichon Gweinidogion Cymru benderfynu'n rhesymol arno.