Cymhwystra a hawliadau am daliad o gymorth ariannol6

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i reoliad 14, bydd buddiolwr yn gymwys i gael taliad cymorth ariannol.

2

Ni thelir unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â chais a gymeradwywyd oni bai bod y canlynol wedi'u rhoi i Weinidogion Cymru—

a

tystiolaeth foddhaol bod swm y gwariant y gwneir cais am gymorth ariannol ar ei gyfer wedi'i dynnu gan y buddiolwr, gan gynnwys manylion unrhyw ddisgownt a gafodd y buddiolwr; a

b

tystiolaeth foddhaol bod y gweithrediad a gymeradwywyd y mae'r cais yn gysylltiedig ag ef wedi'i gyflawni'n briodol.