Penderfynu ar geisiadau5

1

Yn ddarostyngedig i Reoliad y Cyngor 1198/2006 a Rheoliad y Comisiwn 498/2007 caiff Gweinidogion Cymru —

a

gwrthod cymeradwyo cais am gymorth ariannol; neu

b

ei gymeradwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol a hynny naill ai yn ddiamod neu o dan unrhyw amodau y maent yn penderfynu arnynt.

2

Caiff Gweinidogion Cymru amrywio cymeradwyaeth o dro i dro drwy ddiwygio unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu drwy ychwanegu amodau.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru—

a

hysbysu ceiswyr yn ysgrifenedig o'u penderfyniad ar y cais hwnnw;

b

hysbysu buddiolwyr o unrhyw amodau y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu sydd wedi'u hamrywio yn unol â'r rheoliad hwn.

4

Os bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu ceisydd eu bod wedi gwrthod cymeradwyo cais neu'n hysbysu buddiolwr eu bod wedi rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amodau neu wedi amrywio telerau cymeradwyaeth sydd eisoes yn bodoli, rhaid iddynt roi i bob ceisydd neu fuddiolwr o'r fath—

a

rhesymau ysgrifenedig dros eu penderfyniad; a

b

cyfle i gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw o fewn unrhyw amser sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol ac sydd wedi'i hysbysu i'r ceisydd neu'r buddiolwr.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru—

a

ystyried unrhyw sylwadau a dderbyniwyd o dan baragraff (4);

b

gwneud penderfyniad a fydd naill ai yn cadarnhau eu penderfyniad o dan baragraff (4) neu yn gosod penderfyniad gwahanol yn ei le; ac

c

hysbysu'r ceisydd neu'r buddiolwr yn ysgrifenedig yn unol â hynny.