- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Yn ddarostyngedig i Reoliad y Cyngor 1198/2006 a Rheoliad y Comisiwn 498/2007 caiff Gweinidogion Cymru —
(a)gwrthod cymeradwyo cais am gymorth ariannol; neu
(b)ei gymeradwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol a hynny naill ai yn ddiamod neu o dan unrhyw amodau y maent yn penderfynu arnynt.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio cymeradwyaeth o dro i dro drwy ddiwygio unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu drwy ychwanegu amodau.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu ceiswyr yn ysgrifenedig o'u penderfyniad ar y cais hwnnw;
(b)hysbysu buddiolwyr o unrhyw amodau y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu sydd wedi'u hamrywio yn unol â'r rheoliad hwn.
(4) Os bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu ceisydd eu bod wedi gwrthod cymeradwyo cais neu'n hysbysu buddiolwr eu bod wedi rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amodau neu wedi amrywio telerau cymeradwyaeth sydd eisoes yn bodoli, rhaid iddynt roi i bob ceisydd neu fuddiolwr o'r fath—
(a)rhesymau ysgrifenedig dros eu penderfyniad; a
(b)cyfle i gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw o fewn unrhyw amser sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol ac sydd wedi'i hysbysu i'r ceisydd neu'r buddiolwr.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ystyried unrhyw sylwadau a dderbyniwyd o dan baragraff (4);
(b)gwneud penderfyniad a fydd naill ai yn cadarnhau eu penderfyniad o dan baragraff (4) neu yn gosod penderfyniad gwahanol yn ei le; ac
(c)hysbysu'r ceisydd neu'r buddiolwr yn ysgrifenedig yn unol â hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: