Ceisiadau4

1

Rhaid i geisiadau—

i

cael eu gwneud yn y fath ffurf a dull;

ii

cael eu gwneud ar y fath adeg;

iii

cynnwys y fath wybodaeth; a

iv

cael eu hanfon i'r fath gyfeiriad,

ag y dichon Gweinidogion Cymru ofyn amdanynt o bryd i'w gilydd.

2

Rhaid i geiswyr ddarparu'r fath wybodaeth bellach a'r fath ddogfennau pellach sy'n ymwneud â'r cais ag y dichon Gweinidogion Cymru ofyn amdanynt.