Cymorth ariannol3

1

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor 1198/2006, Rheoliad y Comisiwn 498/2007 a'r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth Cymunedol ac, os ydynt yn penderfynu felly, grant i unrhyw berson—

a

sydd wedi gwneud cais, yn unol â rheoliad 4, er mwyn cael cymorth ariannol o'r fath, am gymeradwyaeth o dan reoliad 5 o—

i

gweithrediad perthnasol; a

ii

gwariant a dynnir neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â'r gweithrediad hwnnw; a

b

y maent wedi cymeradwyo ei gais.

2

Wrth benderfynu o dan baragraff (1)—

a

a ddylid talu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol; a

b

swm unrhyw grant o'r fath,

rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ofynion Rheoliad y Cyngor 1198/2006 a Rheoliad y Comisiwn 498/2007 ac, yn benodol, i'r terfynau ar gyfanswm cyfranogiad ariannol y Wladwriaeth (ar lefel genedlaethol, rhanbarthol ac arall) fel y'u nodir yn Atodiad II i Reoliad y Cyngor 1198/2006.