Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “amodau perthnasol” (“relevant conditions”) yw unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymeradwyo cais neu â thalu unrhyw gymorth ariannol y rhoddwyd gwybod amdanynt i fuddiolwr o dan reoliadau 5(3)(b) neu 7;
ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person y cymeradwywyd ei gais am gymorth ariannol, a dehonglir “buddiolwyr” (“beneficiaries”) yn unol â hynny;
ystyr “cais” (“application”) yw cais am daliad o gymorth ariannol o dan reoliad 3(1), ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;
ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 5 ac mae'n cynnwys y telerau a'r amodau y mae'r gymeradwyaeth honno wedi'i rhoi odanynt ac mae “cymeradwyo” (“approve”) ac “a gymeradwywyd” (“approved”) i'w dehongli yn unol â hynny;
ystyr “cwch pysgota Cymunedol” (“Community fishing vessel”) yw cwch pysgota sy'n cwhwfan baner Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd ac a gofrestrwyd yno;
ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy ar ffurf grant neu gymorth Cymunedol o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yw cymorth tuag at wariant cymwys sydd ar gael o Gronfa Pysgodfeydd Ewrop ac sy'n daladwy yn unol â Rheoliad y Cyngor 1198/2006 a Rheoliad y Comisiwn 498/2007;
ystyr “dogfennau perthnasol” (“relevant documents”) yw unrhyw dderbynneb, anfoneb, cyfrif, lluniad, plan, manyleb dechnegol neu ddogfen arall sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd;
ystyr “grant” (“grant”) yw grant tuag at wariant cymwys sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn ychwanegol at unrhyw gymorth Cymunedol;
ystyr “gwariant cymwys” (“eligible expenditure”) yw gwariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd ac y mae Gweinidogion Cymru wedi'i gymeradwyo at ddibenion cael cymorth ariannol o dan reoliad 5;
ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw unrhyw adeiladwaith, harbwr neu weithfeydd adeiladu eraill, wedi'u cwblhau neu beidio, y mae cymorth ariannol wedi'i hawlio neu wedi'i dalu ar eu cyfer;
ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad perthnasol y mae Gweinidogion Cymru wedi'i gymeradwyo yn ysgrifenedig;
ystyr “gweithrediad perthnasol” (“relevant operation”) yw buddsoddiad, prosiect neu weithred sy'n gymwys i gael cymorth Cymunedol;
ystyr “LIBOR” (“LIBOR”) mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol yw'r gyfradd a gynigir rhwng banciau Llundain â'i gilydd am gyfnod o dri mis mewn sterling sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw fel yr hysbysodd Banc Lloegr Weinidogion Cymru ohoni, wedi'i thalgrynnu os oes angen hynny i ddau bwynt degol;
ystyr “offer perthnasol” (“relevant equipment”) yw unrhyw beirianwaith, peiriannau neu offer eraill y mae cymorth ariannol ar eu cyfer wedi'i hawlio neu wedi'i dalu;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 498/2007” (“Commission Regulation 498/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 498/2007 dyddiedig 26 Mawrth 2007 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1198/2006 ar Gronfa Pysgodfeydd Ewrop4;
ystyr “Rheoliad y Cyngor 1198/2006” (“Council Regulation 1198/2006”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1198/2006 dyddiedig 27 Gorffennaf 2006 ar Gronfa Pysgodfeydd Ewrop 5; ac
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru i fod yn swyddog at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog o'r Comisiwn a benodwyd yn briodol sy'n dod gyda'r cyfryw swyddog awdurdodedig.
2
Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy'n ymddangos neu y cyfeirir atynt yn Rheoliad y Cyngor 1198/2006 neu yn Rheoliad y Comisiwn 498/2007 ac nas diffinnir yn y rheoliad hwn, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y ddeddfwriaeth honno, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.
3
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad y Cyngor 1198/2006 neu Reoliad y Comisiwn 498/2007 yn gyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
4
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.
5
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir yn ysgrifenedig neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at gyfathrebiad electronig, fel y'i diffinir yn Neddf Cyfathrebu Electronig 20006, a gafodd ei recordio ac y mae modd o ganlyniad ei atgynhyrchu.