Search Legislation

Rheoliadau Cronfa Pysgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “amodau perthnasol” (“relevant conditions”) yw unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymeradwyo cais neu â thalu unrhyw gymorth ariannol y rhoddwyd gwybod amdanynt i fuddiolwr o dan reoliadau 5(3)(b) neu 7;

  • ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person y cymeradwywyd ei gais am gymorth ariannol, a dehonglir “buddiolwyr” (“beneficiaries”) yn unol â hynny;

  • ystyr “cais” (“application”) yw cais am daliad o gymorth ariannol o dan reoliad 3(1), ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;

  • ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 5 ac mae'n cynnwys y telerau a'r amodau y mae'r gymeradwyaeth honno wedi'i rhoi odanynt ac mae “cymeradwyo” (“approve”) ac “a gymeradwywyd” (“approved”) i'w dehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “cwch pysgota Cymunedol” (“Community fishing vessel”) yw cwch pysgota sy'n cwhwfan baner Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd ac a gofrestrwyd yno;

  • ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy ar ffurf grant neu gymorth Cymunedol o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yw cymorth tuag at wariant cymwys sydd ar gael o Gronfa Pysgodfeydd Ewrop ac sy'n daladwy yn unol â Rheoliad y Cyngor 1198/2006 a Rheoliad y Comisiwn 498/2007;

  • ystyr “dogfennau perthnasol” (“relevant documents”) yw unrhyw dderbynneb, anfoneb, cyfrif, lluniad, plan, manyleb dechnegol neu ddogfen arall sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd;

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant tuag at wariant cymwys sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn ychwanegol at unrhyw gymorth Cymunedol;

  • ystyr “gwariant cymwys” (“eligible expenditure”) yw gwariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd ac y mae Gweinidogion Cymru wedi'i gymeradwyo at ddibenion cael cymorth ariannol o dan reoliad 5;

  • ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw unrhyw adeiladwaith, harbwr neu weithfeydd adeiladu eraill, wedi'u cwblhau neu beidio, y mae cymorth ariannol wedi'i hawlio neu wedi'i dalu ar eu cyfer;

  • ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad perthnasol y mae Gweinidogion Cymru wedi'i gymeradwyo yn ysgrifenedig;

  • ystyr “gweithrediad perthnasol” (“relevant operation”) yw buddsoddiad, prosiect neu weithred sy'n gymwys i gael cymorth Cymunedol;

  • ystyr “LIBOR” (“LIBOR”) mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol yw'r gyfradd a gynigir rhwng banciau Llundain â'i gilydd am gyfnod o dri mis mewn sterling sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw fel yr hysbysodd Banc Lloegr Weinidogion Cymru ohoni, wedi'i thalgrynnu os oes angen hynny i ddau bwynt degol;

  • ystyr “offer perthnasol” (“relevant equipment”) yw unrhyw beirianwaith, peiriannau neu offer eraill y mae cymorth ariannol ar eu cyfer wedi'i hawlio neu wedi'i dalu;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 498/2007” (“Commission Regulation 498/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 498/2007 dyddiedig 26 Mawrth 2007 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1198/2006 ar Gronfa Pysgodfeydd Ewrop(1);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1198/2006” (“Council Regulation 1198/2006”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1198/2006 dyddiedig 27 Gorffennaf 2006 ar Gronfa Pysgodfeydd Ewrop (2); ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru i fod yn swyddog at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog o'r Comisiwn a benodwyd yn briodol sy'n dod gyda'r cyfryw swyddog awdurdodedig.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy'n ymddangos neu y cyfeirir atynt yn Rheoliad y Cyngor 1198/2006 neu yn Rheoliad y Comisiwn 498/2007 ac nas diffinnir yn y rheoliad hwn, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y ddeddfwriaeth honno, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad y Cyngor 1198/2006 neu Reoliad y Comisiwn 498/2007 yn gyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(5Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir yn ysgrifenedig neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at gyfathrebiad electronig, fel y'i diffinir yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000(3), a gafodd ei recordio ac y mae modd o ganlyniad ei atgynhyrchu.

(1)

OJ Rhif L120, 10.5.2007, t.1.

(2)

OJ Rhif L223, 15.8.2006, t.1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources