Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol17
1
Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y person hwnnw, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos yn ei erbyn a chosb yn unol â hynny.
2
Mae paragraff (1) yn gymwys i unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall o'r corff corfforaethol ac i unrhyw berson oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath.
3
Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.