Tramgwyddau a chosbau16

1

Mae unrhyw berson sydd, er mwyn sicrhau cymorth ariannol iddo'i hun neu i unrhyw berson arall—

a

wrth roi unrhyw wybodaeth gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan reoliad 4 neu 12(6)(a), yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol; neu

b

gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir o dan reoliad 4(2), neu 12(6)(a) neu (c) yn fwriadol neu'n ddi-hid yn cyflwyno dogfen sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

2

Mae unrhyw berson sydd—

a

yn methu â chydymffurfio â rheoliadau 9, 10 neu 11; neu

b

yn fwriadol yn gwrthod rhoi unrhyw wybodaeth, llenwi unrhyw ffurflen, neu gyflwyno unrhyw ddogfen pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig (neu berson sy'n mynd gydag ef ac yn gweithredu o dan gyfarwyddiadau'r swyddog hwnnw) sy'n gweithredu i arfer pwer a roddir gan reoliad 12, neu sydd fel arall yn ei rwystro'n fwriadol,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

3

Caniateir dwyn achos ynglyn â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar unrhyw adeg o fewn cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos.

4

Ni chaniateir dwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fwy na phum mlynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

5

At ddibenion y rheoliad hwn—

a

bydd tystysgrif a lofnodir gan neu ar ran yr erlynydd sy'n datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno; a

b

bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.