Llog14

1

Os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu adennill cymorth ariannol drwy hawliad yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn unol â rheoliad 13, cânt hefyd adennill yn ychwanegol ato, y llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o un y cant uwchlaw LIBOR wedi'i gyfrifo ar sail feunyddiol am y cyfnod sy'n dechrau—

a

mewn unrhyw achos y mae rheoliad 13(4) yn gymwys iddo, ar y dyddiad pan ddigwyddodd y digwyddiad dan sylw hyd ddyddiad yr adennill; neu

b

mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad y talwyd y cymorth ariannol,

hyd y dyddiad pan yw Gweinidogion Cymru yn adennill y swm.

2

Mewn unrhyw achos ynglyn ag adennill llog o dan y Rheoliadau hyn, bydd tystysgrif a roddir gan Weinidogion Cymru i ddangos y gyfradd neu gyfraddau llog sy'n gymwys, swm y llog o'r fath sy'n adenilladwy a'r cyfnod y cyfrifir y llog ar ei gyfer yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r materion hynny oni phrofir i'r gwrthwyneb.