Cwtogi cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill13
1
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg ar ôl iddynt gymeradwyo cais—
a
na chydymffurfiwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw amod perthnasol;
b
nad oedd y cais a gymeradwywyd felly, neu unrhyw ran ohono, yn gais yr oedd y buddiolwr yn gymwys i'w wneud;
c
bod y buddiolwr, neu gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr—
i
wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 9, 10, 11 neu 12(6);
ii
wedi rhwystro unrhyw swyddog awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer ei bwerau o dan reoliad 12; neu
iii
wedi rhoi gwybodaeth am unrhyw fater sy'n berthnasol i roi'r gymeradwyaeth neu i wneud taliad sy'n berthnasol i'r gymeradwyaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn ystyr berthnasol;
ch
bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i gychwyn cyn y dyddiad y rhoddodd Gweinidogion Cymru ganiatâd ysgrifenedig iddo gychwyn;
d
nad yw'r gweithrediad a gymeradwywyd y tynnwyd y gwariant mewn perthynas ag ef wedi'i gyflawni neu ei fod heb ei gyflawni'n briodol neu yn unol â'r gymeradwyaeth sy'n ymwneud ag ef;
dd
bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i ohirio neu yn cael ei ohirio yn afresymol y tu hwnt i'r terfynau amser a nodwyd yn yr hysbysiad o gymeradwyaeth neu ei fod yn annhebyg o gael ei gwblhau;
e
na chydymffurfiwyd ag unrhyw ymrwymiad a roddwyd gan y buddiolwr o dan reoliad 8;
f
bod y Comisiwn wedi penderfynu cwtogi neu atal dros dro gymorth Cymunedol yn unol ag Erthygl 89 o Reoliad y Cyngor 1198/2006;
ff
mewn unrhyw achos o gymorth ariannol ar gyfer adeiladu neu foderneiddio cwch pysgota, bod unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (2) wedi digwydd cyn pen deng mlynedd ar ôl cwblhau adeiladu'r cwch neu bum mlynedd ar ôl cwblhau moderneiddio'r cwch;
g
mewn unrhyw achos o gymorth ariannol i unrhyw weithrediad perthnasol heblaw adeiladu neu foderneiddio cwch pysgota, bod unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (3) wedi digwydd cyn pen chwe blynedd o brynu'r offer perthnasol neu cyn pen deng mlynedd o brynu'r fangre neu gwblhau'r gweithfeydd;
ng
mae'r cymorth ariannol yn dyblygu neu fe fyddai'n dyblygu cymorth a roddir neu a fydd yn cael ei roddi o gronfeydd y perir eu bod ar gael—
i
gan y Cymunedau Ewropeaidd,
ii
gan Weinidogion Cymru, neu
iii
gan gorff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus o fewn y Deyrnas Unedig;
h
mae'r buddiolwr wedi torri unrhyw ofyniad y mae'n ddarostyngedig iddo o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Cyngor 1198/2006 neu Reoliad y Comisiwn 498/2007; neu
i
mae'r gweithrediad a gymeradwywyd yn ddarostyngedig i gosbau sy'n gymwys o dan Reoliad y Cyngor 1198/2006 neu Reoliad y Comisiwn 498/2007,
caiff Gweinidogion Cymru ddirymu'r gymeradwyaeth yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu caiff gwtogi neu ddal yn ôl unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd ac, os oes taliad cymorth ariannol wedi'i wneud, caiff adennill, ar gais, fel dyled, swm sy'n gyfartal â'r cyfan neu ag unrhyw ran a benderfynir ganddynt o'r taliad sydd wedi'i wneud.
2
Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(ff) —
a
colli'r cwch yn gyfan gwbl;
b
difrodi neu ddinistrio unrhyw offer perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu dâl digolledu neu iawndal;
c
morgais ar y cwch (heblaw morgais sy'n cael ei greu i godi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio'r cwch, sef morgais a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei wneud);
ch
defnyddio'r cwch yn bennaf at ddibenion heblaw'r rheini y cymeradwywyd cymorth ariannol ar ei gyfer;
d
gwaredu'r cwch neu unrhyw ran ohono, ei injan neu unrhyw ran ohoni neu unrhyw offer perthnasol neu offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar y cwch neu mewn cysylltiad ag ef, boed drwy werthu neu drwy ddull arall; neu
dd
bod y cwch yn peidio â bod yn gwch pysgota Cymunedol.
3
Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(g)—
a
colli'r offer perthnasol yn gyfan gwbl;
b
difrodi neu ddinistrio unrhyw offer, unrhyw fangre, neu unrhyw weithfeydd perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu dâl digolledu neu iawndal;
c
creu hawl mewn gwarant dros yr offer, y fangre neu'r gweithfeydd perthnasol (heblaw hawl mewn gwarant sy'n cael ei chreu er mwyn codi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio'r offer, y fangre neu'r gweithfeydd perthnasol, sef hawl mewn gwarant a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru cyn iddi gael ei gwneud);
ch
defnyddio'r offer, y fangre neu'r gweithfeydd perthnasol yn bennaf at ddibenion heblaw'r dibenion y cymeradwywyd y cymorth ariannol mewn perthynas â hwy; neu
d
gwaredu'r offer, y fangre neu'r gweithfeydd perthnasol neu unrhyw ran ohonynt, boed drwy werthu neu drwy ddull arall.
4
At ddibenion paragraff (1)(ng), mae swm yn dyblygu cymorth ariannol os yw'n cael ei dalu, neu pe byddai'n cael ei dalu, at unrhyw un o'r un dibenion.
5
Os yw paragraff (1)(ff) neu (g) yn gymwys ac nad oes dim o'r is-baragraffau eraill ym mharagraff (1) yn gymwys, bydd yr uchafswm y caiff Gweinidogion Cymru ei adennill oddi ar fuddiolwr o dan y rheoliad hwn yn swm sy'n hafal i'r rhan o'r cyfnod o ddeng mlynedd, neu yn ôl fel y digwydd, o'r cyfnod o bum mlynedd neu chwe mlynedd sydd heb ddod i ben, wedi'i gyfrifo fel swm cyfrannol o gyfanswm y taliad cymorth ariannol ynghyd â'r llog arno o dan reoliad 14.
6
Cyn dirymu cymeradwyaeth yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu ostwng neu ddal yn ôl unrhyw gymorth ariannol neu cyn gwneud hawliad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
a
rhoi esboniad ysgrifenedig i'r buddiolwr o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;
b
rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn amser rhesymol; ac
c
ystyried unrhyw sylwadau.