Cofnodion10

1

Rhaid i fuddiolwr—

a

cadw cofnod o bob dim a dderbynnir a phob gwariant a dynnir mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd; a

b

tra bydd gweithrediad a gymeradwywyd yn cael ei gyflawni ac ar ôl cwblhau'r gweithrediad a gymeradwywyd ac wedyn drwy gydol y cyfnod rheoli, cadw unrhyw gofnod o'r fath ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd, ac eithrio i'r graddau y mae swyddog awdurdodedig wedi mynd â hwy a'u cadw o dan reoliad 12(6).

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), y “cyfnod rheoli” yw—

a

cyfnod o chwe blynedd yn dechrau gyda thaliad olaf y cymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd; neu

b

unrhyw gyfnod pellach y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw o chwe blynedd y mae Gweinidogion Cymru wedi'i hysbysu'r buddiolwr ohono yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg cyn i'r cyfnod hwnnw o chwe blynedd ddod i ben.

3

Wrth benderfynu mewn unrhyw achos ar ba ddyddiad y daw'r cyfnod rheoli i ben, rhaid peidio â chymryd unrhyw amser rhwng cychwyn unrhyw achos a ddygir o dan reoliad 13 i adennill unrhyw gymorth ariannol a dalwyd mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd a phenderfyniad terfynol yr achos hwnnw.

4

Pan fo buddiolwr, yng nghwrs arferol ei fusnes, yn trosglwyddo unrhyw ddogfen wreiddiol y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i berson arall, rhaid i'r buddiolwr ddal gafael ar gopi o'r ddogfen honno hyd ddiwedd y cyfnod rheoli perthnasol.