- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
10.—(1) Rhaid i fuddiolwr—
(a)cadw cofnod o bob dim a dderbynnir a phob gwariant a dynnir mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd; a
(b)tra bydd gweithrediad a gymeradwywyd yn cael ei gyflawni ac ar ôl cwblhau'r gweithrediad a gymeradwywyd ac wedyn drwy gydol y cyfnod rheoli, cadw unrhyw gofnod o'r fath ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd, ac eithrio i'r graddau y mae swyddog awdurdodedig wedi mynd â hwy a'u cadw o dan reoliad 12(6).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), y “cyfnod rheoli” yw—
(a)cyfnod o chwe blynedd yn dechrau gyda thaliad olaf y cymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd; neu
(b)unrhyw gyfnod pellach y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw o chwe blynedd y mae Gweinidogion Cymru wedi'i hysbysu'r buddiolwr ohono yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg cyn i'r cyfnod hwnnw o chwe blynedd ddod i ben.
(3) Wrth benderfynu mewn unrhyw achos ar ba ddyddiad y daw'r cyfnod rheoli i ben, rhaid peidio â chymryd unrhyw amser rhwng cychwyn unrhyw achos a ddygir o dan reoliad 13 i adennill unrhyw gymorth ariannol a dalwyd mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd a phenderfyniad terfynol yr achos hwnnw.
(4) Pan fo buddiolwr, yng nghwrs arferol ei fusnes, yn trosglwyddo unrhyw ddogfen wreiddiol y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i berson arall, rhaid i'r buddiolwr ddal gafael ar gopi o'r ddogfen honno hyd ddiwedd y cyfnod rheoli perthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: