(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn atodi Rheoliad y Cyngor 1198/2006 ar Gronfa Pysgodfeydd Ewrop (“Rheoliad y Cyngor”) a Rheoliad y Comisiwn 498/2007 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (“Rheoliad y Comisiwn”). Wrth arfer y pwer a gyflwynwyd gan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, mae cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn yn gyfeiriadau at yr offerynnau hyn fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Mae Rheoliad y Cyngor yn darparu ar gyfer talu cymorth (“cymorth Cymunedol”) o Gronfa Pysgodfeydd Ewrop a sefydlwyd gan y Gymuned Ewropeaidd mewn perthynas â chategorïau penodol o fuddsoddiadau, prosiectau a gweithrediadau (“gweithrediadau perthnasol”) yn y sector pysgodfeydd a dyframaethu ac yn y sector o'r diwydiant sy'n prosesu a marchnata ei gynhyrchion.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer ac yn rheoleiddio talu cymorth Cymunedol a grantiau yn ychwanegol at y cymorth gan Weinidogion Cymru tuag at wariant ar weithrediadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol â'r Rheoliadau hyn, Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn.
Mae'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 3, 4 a 5) yn gosod gweithdrefn ar gyfer gwneud a chymeradwyo ceisiadau i gymeradwyo gweithrediadau perthnasol a gwariant at ddibenion talu cymorth Cymunedol ac, os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu felly, talu grant yn ychwanegol at y cymorth hwnnw. Cyfeirir at gymorth a grant o'r fath gyda'i gilydd fel “cymorth ariannol”. Wrth benderfynu p'un ai i dalu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol ai peidio ac, os ydynt yn penderfynu talu grant o'r fath, swm y grant hwnnw, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i ofynion Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3). Ymhlith pethau eraill, mae Rheoliad y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol fod yna lefel benodol o ymwneud ariannol gan Aelod-wladwriaethau er mwyn galluogi gweithrediadau perthnasol i gymhwyso am gymorth Cymunedol gyda'r lefelau o ymwneud yn cael eu gosod yn Atodiad II i Reoliad y Cyngor.
Mae talu cymorth ariannol yn dibynnu ar ddarparu tystiolaeth foddhaol o'r gwariant a dducpwyd ac o wneud y gweithrediad perthnasol yn briodol (rheoliad 6).
Gwneir darpariaeth ynghylch y dull o dalu cymorth ariannol (rheoliad 7). Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson y cymeradwyir ei gais roi ymrwymiadau (rheoliad 8).
Gwneir darpariaeth (rheoliad 9) ar gyfer personau y cymeradwywyd eu ceisiadau am gymorth ariannol i roi i Weinidogion Cymru y fath wybodaeth ag y dichon Gweinidogion Cymru ofyn yn rhesymol amdani o bryd i'w gilydd ac (o dan reoliad 10) iddynt ddal gafael ar gofnodion penodol am gyfnod o 6 blynedd. Caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw.
Mae'n ofynnol i geisyddion, os gofynnir iddynt wneud hynny, roi cymorth i swyddogion awdurdodedig, y rhoddir iddynt bwerau mynediad ac arolygu at ddibenion penodedig (rheoliadau 11 a 12). Gwneir darpariaeth, mewn amgylchiadau penodol, ar gyfer cwtogi, dal yn ôl ac adennill cymorth ariannol (rheoliad 13) ac ar gyfer talu llog ar symiau a adenillwyd (rheoliad 14). Mae rheoliad 11 yn darparu bod symiau sy'n daladwy i Weinidogion Cymru yn adenilladwy fel dyled.
Mae'r Rheoliadau yn creu tramgwyddau ac yn darparu cosbau ar gyfer gwneud datganiadau anwir er mwyn cael cymorth ariannol, methiant i gadw cofnodion neu i ddarparu gwybodaeth y gofynnir yn rhesymol amdani gan Weinidogion Cymru, methiant i gydymffurfio â gofynion a wneir gan swyddogion awdurdodedig wrth arfer eu pwerau mynediad ac arolygu a rhwystro'r cyfryw swyddogion wrth iddynt arfer y pwerau hynny (rheoliad 16). Maent hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â thramgwyddau gan gyrff corfforaethol (rheoliad 17).
Gwnaed asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.