2009 Rhif 360 (Cy.35)
Rheoliadau Cronfa Pysgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2009
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad y Cyngor (EC) 1198/2006 a Rheoliad y Comisiwn (EC) 498/2007 fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi3, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol.