xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3379 (Cy.301)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpan Fach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2009

Gwnaed

21 Rhagfyr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

20 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd)(2).

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpan Fach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 20 Ionawr 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac ym Mhenderfyniad y Comisiwn yr un ystyr ag sydd iddo ym Mhenderfyniad y Comisiwn.

(3Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), i awdurdod iechyd porthladd;

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(7), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu

(c)drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(8), i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u neilltuo felly iddo.

Gwaharddiadau

3.—(1Ni chaiff neb wneud gweithrediadau masnachol parthed jeli cwpanau bach sydd dan reolaeth.

(2At ddibenion paragraff (1), cymerir hyd onis profir i'r gwrthwyneb fod unrhyw jeli cwpanau bach sy'n cynnwys unrhyw un o'r ychwanegion bwyd perthnasol yn jeli cwpanau bach sydd dan reolaeth.

(3Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw un o'r ychwanegion bwyd perthnasol wrth weithgynhyrchu unrhyw jeli cwpanau bach a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl.

(4At ddibenion paragraff (3), cymerir hyd onis profir i'r gwrthwyneb fod unrhyw jeli cwpanau bach wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl.

(5Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r gwaharddiad ym mharagraff (1) neu (3) yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod yw'n fwy na thri mis, neu i'r ddau.

Gorfodi

4.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

(2At ddibenion galluogi awdurdod bwyd i wneud ei ddyletswydd o weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn, mae swyddog awdurdodedig o'r awdurdod hwnnw yn ddarostyngedig i'r un rhwymedigaethau parthed caffael samplau o dan adran 29 o'r Ddeddf ag a osodir ar swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi gan reoliadau 6 i 8 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(9) (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “Rheoliadau 1990”), gyda'r addasiad fod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hynny at adran 29 o'r Ddeddf i'w gyfrif yn gyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan reoliad 5(5).

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd roi'r fath gymorth a gwybodaeth i Weinidogion Cymru ac i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ag a ofynnir yn rhesymol ganddynt yng nghyswllt gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf etc.

5.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehnogli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy(10)), gyda'r addasiadau pellach—

(i)fod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(1) a (3) megis y maent yn gymwys i dramgwydd o dan adran 14 neu 15, a

(ii)mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(1), cyfrifir fod y cyfeiriad at “sale” yn is-adran (4)(b) yn cynnwys cyfeiriadau at wneud unrhyw weithrediad masnachol;

(ch)adran 30 (dadansoddi etc. samplau) gyda'r addasiadau pellach—

(i)fod y cyfeiriad at “section 29 above” yn is-adran (1) i'w gyfrif yn gyfeiriad at yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan reoliad 5(5), a

(ii)yn y diffiniad o “sample” yn is-adran (9) fod y cyfeiriad at “regulations under section 31 below” i'w gyfrif yn gyfeiriad at reoliad 4(2);

(d)adran 32 (pwerau mynediad), gyda'r addasiad pellach fod y cyfeiriad yn is-adran (1) at “an enforcement authority” i'w gyfrif yn gyfeiriad at awdurdod bwyd;

(dd)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(e)adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above” i'w gyfrif yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);

(f)adran 35(1)(cosbi tramgwyddau)(11), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);

(ff)adran 35(2) a (3)(12), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);

(g)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ng)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(13); ac

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu yn ddidwyll).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae adran 9 o'r Ddeddf (arolygu bwyd amheus ac ymafael ynddo) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn —

9.(1) An authorised officer of a food authority may at all reasonable times inspect any jelly mini-cups which—

(a)have been sold or are offered or exposed for sale; or

(b)are in the possession of, or have been deposited with or consigned to, any person for the purpose of sale or of preparation for sale.

(2) Subsections (3) to (8) apply where, whether or not on an inspection carried out under subsection (1), it appears to an authorised officer that—

(a)any person has carried out commercial operations with respect to controlled jelly mini-cups, in contravention of regulation 3(1) of the Food (Jelly Mini-Cups) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2009; or

(b)any person has used any of the relevant food additives in the manufacture of any jelly mini-cups which are intended for human consumption, in contravention of regulation 3(3) of those Regulations.

(3) The authorised officer may either—

(a)give notice to the person in charge of the jelly mini-cups that, until the notice is withdrawn, the jelly mini-cups or any specified quantity of them—

(i)are not to be used for human consumption, and

(ii)either are not to be removed or are not to be removed except to some place specified in the notice; or

(b)seize the jelly mini-cups and remove them in order to have them dealt with by a justice of the peace;

(4) Where the authorised officer exercises the powers conferred by subsection (3)(a) that officer must, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, determine whether or not he or she is satisfied that there has been no contravention of regulation 3(1) or (3) of the Food (Jelly Mini-Cups) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2009 in relation to the jelly mini-cups and—

(a)if he or she is so satisfied, must forthwith withdraw the notice; and

(b)if he or she is not so satisfied, must seize the jelly mini-cups and remove them in order to have them dealt with by a justice of the peace.

(5) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (3)(b) or (4)(b), that officer must inform the person in charge of the jelly mini-cups of his or her intention to have them dealt with by a justice of the peace and—

(a)any person who under regulation 3(5) of the Food (Jelly Mini-Cups) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2009 might be liable to a prosecution in respect of the jelly mini-cups is, if he or she attends before the justice of the peace by whom the jelly mini-cups fall to be dealt with, entitled to be heard and to call witnesses; and

(b)that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence consisting of a contravention of regulation 3(1) or (3) of the Food (Jelly Mini-Cups) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2009 in relation to those jelly mini-cups.

(6) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as the justice of the peace considers appropriate in the circumstances, that any person has contravened regulation 3(1) or (3) of the Food (Jelly Mini-Cups) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2009 in relation to any jelly mini-cups falling to be dealt with by the justice of the peace under this section, the justice of the peace must condemn the jelly mini-cups and order—

(a)the jelly mini-cups to be destroyed or to be so disposed of as to prevent them from being used for human consumption; and

(b)any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the jelly mini-cups.

(7) If a notice under subsection (3)(a) is withdrawn, or the justice of the peace by whom any jelly mini-cups fall to be dealt with under this section refuses to condemn them, the food authority must compensate the owner of the jelly mini-cups for any depreciation in their value resulting from the action taken by the authorised officer.

(8) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (7) is to be determined by arbitration.

(9) For the purposes of—

(a)subsection (2)(a), any jelly mini-cups which contain any of the relevant food additives are presumed until the contrary is proved to be controlled jelly mini-cups; and

(b)subsection (2)(b), any jelly mini-cups are presumed until the contrary is proved to be intended for human consumption..

(3Bydd yr ymadroddion “food authority”, “jelly mini-cups”, “controlled jelly mini-cups”, “the relevant food additives” a “for human consumption”, a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2) , at y dibenion hynny, yn dwyn yr ystyron sydd i'r ymadroddion hynny yn y Rheoliadau hyn.

(4Mae adran 2 o'r Ddeddf (ystyr estynedig “sale” etc.) yn gymwys mewn perthynas ag adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwysat ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2).

(5Mae adran 29 o'r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol—

(a)yn lle'r geiriau “an enforcement authority” rhodder y geiriau “a food authority”;

(b)yn lle is-adran (b)(ii) rhodder y ddarpariaeth a ganlyn—

(ii)is found by that person on or in any premises whichhe or she is authorised to enter pursuant to section32 as applied for the purposes of the Food (Jelly Mini-Cups) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2009 by regulation 5(1)(e) of those Regulations;;

(c)hepgorer is-adran (c) ; ac

(ch)yn lle'r geiriau “any of the provisions of this Act or of regulations or orders made under it” yn is-adran (d) rhodder y geiriau “the Food (Jelly Mini-Cups) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2009”.

(6Mae Rheoliad 9(1) o Reoliadau 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau megis petai'n darllen fel a ganlyn—

(1) Where a sample procured under section 29 of the Act as applied by regulation 5(5) of the Food (Jelly Mini-Cups) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2009 has been analysed or examined pursuant to regulation 4(2) of those Regulations, the owner is entitled on request to be supplied with a copy of the certificate of analysis or examination by the authority which, by virtue of regulation 4(1) of those Regulations, has the duty of enforcing them..

Dirymu

6.  Dirymir Rheoliadau Bwyd (Cyffaith Jeli)(Cymru) 2002(1).

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidogdros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

21 Rhagfyr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rh oliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru yn rhoi ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2004/374/ EC sy'n atal dros dro osod ar y farchnad a mewnforio jeli cwpanau bach sy'n cynnwys yr ychwanegion bwyd E400, E401, E402, E403, E404, E405, E406, E407, E407a, E410, E412, E413, E414, E415, E417 ac/neu E418 (OJ Rhif L118, 23.4.2004, t.70).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn gwahardd

(i)gwneud gweithrediadau masnachol parthed jeli cwpanau bach sy'n cynnwys unrhyw un o'r ychwanegion bwyd E400, E401, E402, E403, E404, E405, E406, E407, E407a, E410, E412, E413, E414, E415, E417 neu E418 ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, a

(ii)defnyddio unrhyw ychwanegyn o'r fath wrth weithgynhyrchu unrhyw jeli cwpanau bach a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (rheoliad 3);

(b)yn darparu ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 4);

(c)yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) (rheoliad 5); ac

(ch)yn dirymu Rheoliadau Bwyd (Cyffaith Jeli) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1090 (Cy.115))(rheoliad 6).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(5)

OJ Rhif L118, 23.4.2004, t.70.

(6)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(7)

1936 p. 49; mae adran 6 i' w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(8)

1985 p. 51; diwygiwyd adran 15(6) gan baragraff 31(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(9)

O.S. 1990/2463, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(10)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(11)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.

(12)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(13)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.