Defnyddio lliwiau mewn neu ar fwyd
3.—(1) Ni chaiff neb ddefnyddio, mewn neu ar unrhyw fwyd, unrhyw liw ac eithrio lliw a ganiateir.
(2) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 94/36 ac eithrio yn unol â pharagraff (3)(a).
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac i reoliadau 4 a 5, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd onid yw'r bwyd—
(a)yn un a restrir—
(i)yn y golofn gyntaf o Atodiad III i Gyfarwyddeb 94/36, ac os felly, ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw liw a ganiateir a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn ail golofn yr Atodiad hwnnw, mewn maint nad yw'n fwy na'r lefel uchaf ar gyfer y cyfryw liw a ganiateir yn y bwyd hwnnw neu arno, fel a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodiad hwnnw,
(ii)yn yr ail golofn o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 94/36, ac os felly, ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw liw a ganiateir a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yng ngholofn gyntaf yr Atodiad hwnnw, mewn maint nad yw'n fwy na'r lefel uchaf ar gyfer y cyfryw liw a ganiateir yn y bwyd hwnnw neu arno, fel a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodiad hwnnw; neu
(iii)yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Rhan 2 o Atodiad V i Gyfarwyddeb 94/36, ac os felly, ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw liw a ganiateir a restrir yn Rhannau I neu 2 o'r Atodiad hwnnw, yn unol â'r amodau a gynhwysir yn yr Atodiad hwnnw sy'n llywodraethu'r defnydd o'r cyfryw liw yn y cyfryw fwyd neu arno; neu
(b)yn un nas rhestrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 94/36 nac yn y golofn gyntaf o Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, ac os felly ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw un neu ragor o'r lliwiau a ganiateir a restrir yn Rhan I o Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno, hyd at y maint quantum satis (ym mhob achos).
(4) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw a ganiateir, a restrir yn y golofn gyntaf o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 94/36, mewn neu ar unrhyw fwyd ac eithrio'r bwyd neu fwydydd a restrir, mewn perthynas â'r lliw a ganiateir hwnnw, yn yr ail golofn o'r Atodiad hwnnw.