(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992 (O.S. 1992/1978), Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123), Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124) a Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (O.S. 1995/3187) (pob un ohonynt yn ymestyn i'r cyfan o Brydain Fawr), ac yn ailddeddfu gyda newidiadau ac ar sail drosiannol darpariaethau penodol o'r tri olaf o'r offerynnau hynny.

2.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi, o ran Cymru, Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16) (“y Rheoliad”) ac yn rhoi effaith yng Nghymru i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/10/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L44, 14.2.2009, t.62).

3.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd—

(a)

defnyddio unrhyw liw ac eithrio lliw a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd, a defnyddio unrhyw liw a ganiateir oni fodlonir gofynion penodol (diffinnir y termau “lliw” a “lliw a ganiateir” yn rheoliad 2(1))(rheoliad 3);

(b)

defnyddio lliwiau ac eithrio lliwiau penodol a ganiateir, ar gyfer marcio iechyd a mathau eraill o farcio ar rai cigoedd a chynhyrchion cig (rheoliad 4);

(c)

defnyddio lliw ac eithrio lliw a ganiateir i liwio'n addurniadol plisgyn wyau neu farcio plisgyn wyau fel y darperir ar ei gyfer mewn offeryn UE penodedig (rheoliad 5);

(ch)

gwerthu—

(i)

unrhyw liw i'w ddefnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd, onid yw'r lliw yn un a ganiateir,

(ii)

yn uniongyrchol i ddefnyddwyr unrhyw liw ac eithrio lliw penodedig a ganiateir (diffinnir y term “lliw penodedig a ganiateir” yn rheoliad 2(1)), neu

(iii)

unrhyw fwyd sydd ag unrhyw liw ynddo neu arno, ac eithrio lliw a ganiateir ac a ddefnyddiwyd yn y bwyd neu arno heb dorri darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 6);

(d)

defnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir (diffinnir y termau “ychwanegyn amrywiol” ac “ychwanegyn amrywiol a ganiateir” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 8(1));

(dd)

yn ddarostyngedig i ddarpariaeth UE benodedig, defnyddio ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir mewn man arall yn yr offeryn UE lle mae'r ddarpariaeth honno'n ymddangos, mewn neu ar fwyd a restrir mewn rhan benodedig o'r offeryn hwnnw (rheoliad 8(2));

(e)

yn ddarostyngedig i ddarpariaeth UE benodedig yn achos y gwaharddiad a osodir gan reoliad 8(3), defnyddio ychwanegion amrywiol a ganiateir penodol mewn neu ar fwydydd penodedig oni fydd gofynion penodedig wedi eu bodloni (rheoliad 8(3), (4) a (5));

(f)

defnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol fel cludydd neu doddydd cludo yn bennaf, onid yw'r ychwanegyn yn ychwanegyn amrywiol a ganiateir sydd wedi ei restru mewn darpariaeth UE benodedig, a'r defnydd ohono yn cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau, os oes rhai, a grybwyllir mewn perthynas â'r ychwanegyn yn y ddarpariaeth honno (diffinnir y termau “cludydd” a “toddydd cludo” yn rheoliad 2(1))(rheoliad 8(6));

(ff)

yn ddarostyngedig i ddarpariaeth UE benodedig, defnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir mewn neu ar fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc, onid yw wedi ei restru mewn darpariaeth UE benodedig ac oni ddefnyddir ef yn unig yn unol â'r amodau a gynhwysir yn y ddarpariaeth honno (diffinnir y term “bwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 8(7));

(g)

defnyddio, mewn neu ar unrhyw fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc, unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad ag ychwanegyn amrywiol a ddefnyddir yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, onid yw'r ychwanegyn bwyd amrywiol wedi ei restru mewn darpariaeth UE benodedig, a'i bresenoldeb yn neu ar y bwyd yn cydymffurfio â'r amodau a gynhwysir yn y ddarpariaeth honno (diffinnir y term “ychwanegyn bwyd perthnasol” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 8(8));

(ng)

gwerthu unrhyw ychwanegyn amrywiol i'w ddefnyddio mewn neu ar fwyd, ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 9(1));

(h)

gwerthu unrhyw ychwanegyn amrywiol i'w ddefnyddio yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo onid yw'r ychwanegyn yn fath penodol o ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 9(2));

(i)

gwerthu yn uniongyrchol i ddefnyddwyr unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 9(3));

(j)

gwerthu unrhyw fwyd sydd ag ychwanegyn amrywiol ynddo neu arno, ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a ddefnyddiwyd, neu sy'n bresennol yn y bwyd neu arno, heb dorri darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 9(4));

(l)

gwerthu unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad ag ychwanegyn amrywiol a ddefnyddir yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, oni ddefnyddiwyd yr ychwanegyn amrywiol mewn perthynas â'r ychwanegyn bwyd perthnasol heb dorri gofynion rheoliad 8(6) (rheoliad 9(5));

(ll)

rhoi ar y farchnad unrhyw felysydd a fwriedir ar gyfer ei werthu i'r defnyddwyr terfynol neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd, ac eithrio melysydd a ganiateir (diffinnir y termau “melysydd” a “melysydd a ganiateir” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 11(1));

(m)

defnyddio unrhyw felysydd mewn neu ar unrhyw fwyd, ac eithrio melysydd a ganiateir—

(i)

a ddefnyddir mewn neu ar fwyd a restrir mewn darpariaeth UE benodedig mewn maint nad yw'n fwy na'r dos defnyddiadwy mwyaf o'r melysydd a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn y ddarpariaeth honno, a

(ii)

a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn y ddarpariaeth honno (rheoliad 11(2)); ac

(n)

gwerthu unrhyw fwyd sydd ag unrhyw felysydd ynddo neu arno ac eithrio melysydd a ganiateir, a ddefnyddiwyd yn y bwyd neu arno heb dorri rheoliad 11(2) (rheoliad 12).

4.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn—

(a)

ailddeddfu gyda newidiadau ar sail drosiannol (gweler paragraff 1 uchod) darpariaethau penodol a gynhwysir yn Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995, Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 a Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (rheoliadau 7, 10 a 13);

(b)

darparu bod person sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio â darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn neu (yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol a gynhwysir yn Erthygl 34 o'r Rheoliad) y Rheoliad, yn euog o dramgwydd diannod, ac yn agored, o'i gollfarnu, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000) (rheoliad 14);

(c)

darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad (rheoliad 15);

(ch)

cymhwyso, gydag addasiadau at ddibenion y Rheoliadau hyn, darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 16);

(d)

darparu, pan ardystir bod bwyd yn fwyd y byddai'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ei ddefnyddio, ei werthu neu ei roi ar y farchnad, y trinnir y bwyd at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel bwyd nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion diogelwch bwyd (rheoliad 17);

(dd)

gwneud newidiadau canlyniadol yn Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 19 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (O.S. 1966/1073), Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3041 (Cy.286)), Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3053 (Cy.291)), Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 (O.S. 2004/139 (Cy.141)) a Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004 (O.S. 2004/553 (Cy.56)) (rheoliad 18); ac

(e)

gwneud newid bychan yn Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3047 (Cy.290)) (rheoliad 19).

5.

Gwnaed asesiad effaith rheoleiddiol llawn mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn, ac y mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.