1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
2. Mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.
3.—(1) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraffau (2) i (5), mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Tan 1 Ebrill 2011 mae'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) yn dal yn effeithiol, at y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (4), fel pe baent heb eu diwygio neu heb eu diddymu gan y Mesur.
(3) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw'r adrannau canlynol yn Neddf Llywodraeth Leol 1999—
(a)1(1)(k), (6) a (7) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 10A, 11, 12A, 13A, 15 a 25 o'r Ddeddf honno,
(b)10A(1)(a),
(c)25(2)(d),
(ch)29(1A) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 10A, 12A, 13A, 15 a 25 o'r Ddeddf honno, a
(d)29(2A) a (4).
(4) Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiadau o sut mae awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru yn cydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 i'r graddau y mae'r gofynion hynny'n ymwneud â blwyddyn ariannol 2009-2010.
(5) Mae adrannau 15 a 29(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn dal yn effeithiol—
(a)(i)tan 1 Ebrill 2011; neu
(ii)hyd nes y daw unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 15 cyn y dyddiad hwnnw i ben; neu
(iii)hyd nes y caiff unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 15 ei dynnu'n ôl cyn y dyddiad hwnnw;
p'un bynnag fydd olaf; neu
(b)pan fo cyfarwyddyd wedi'i ddyroddi o dan adran 15 cyn 1 Ebrill 2011 (y “cyfarwyddyd gwreiddiol”), o ran unrhyw gyfarwyddyd pellach a ddyroddir cyn i'r cyfarwyddyd gwreiddiol ddod i ben i'r un awdurdod gwerth gorau yng Nghymru a oedd yn destun y cyfarwyddyd gwreiddiol, hyd nes y daw'r cyfarwyddyd pellach hwnnw i ben.
4. Mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2009