Enwi a dehongli1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 20102.

Mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 20103.

(1)

Ac eithrio fel y darperir ym mharagraffau (2) i (5), mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.

(2)

Tan 1 Ebrill 2011 mae'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) yn dal yn effeithiol, at y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (4), fel pe baent heb eu diwygio neu heb eu diddymu gan y Mesur.

(3)

Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw'r adrannau canlynol yn Neddf Llywodraeth Leol 1999—

(a)

1(1)(k), (6) a (7) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 10A, 11, 12A, 13A, 15 a 25 o'r Ddeddf honno,

(b)

10A(1)(a),

(c)

25(2)(d),

(ch)

29(1A) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 10A, 12A, 13A, 15 a 25 o'r Ddeddf honno, a

(d)

29(2A) a (4).

(4)

Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiadau o sut mae awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru yn cydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 i'r graddau y mae'r gofynion hynny'n ymwneud â blwyddyn ariannol 2009-2010.

(5)

Mae adrannau 15 a 29(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn dal yn effeithiol—

(a)

(i)

tan 1 Ebrill 2011; neu

(ii)

hyd nes y daw unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 15 cyn y dyddiad hwnnw i ben; neu

(iii)

hyd nes y caiff unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 15 ei dynnu'n ôl cyn y dyddiad hwnnw;

p'un bynnag fydd olaf; neu

(b)

pan fo cyfarwyddyd wedi'i ddyroddi o dan adran 15 cyn 1 Ebrill 2011 (y “cyfarwyddyd gwreiddiol”), o ran unrhyw gyfarwyddyd pellach a ddyroddir cyn i'r cyfarwyddyd gwreiddiol ddod i ben i'r un awdurdod gwerth gorau yng Nghymru a oedd yn destun y cyfarwyddyd gwreiddiol, hyd nes y daw'r cyfarwyddyd pellach hwnnw i ben.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 20114.

Mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.

Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru