Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3100 (Cy.274)) er mwyn ychwanegu tri thanwydd newydd (Brics glo Briteheat, Brics glo Therma a Boncyffion tân Tiger Tim) at y rhestr o danwyddau y datganwyd eu bod yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993.
Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn darparu, pan fo simnai naill ai—
yn simnai adeilad; neu
yn simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol,
fod meddiannydd yr adeilad, neu (yn ôl y digwydd) y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r periannau yn euog o dramgwydd os yw'r simnai mewn ardal rheoli mwg ac yn gollwng mwg. Er hynny, mae'n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.
Yng Nghymru, ystyr tanwydd awdurdodedig yw tanwydd y datganwyd ei fod yn awdurdodedig gan Reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.